Fe fydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cwrdd â rhai o brif gyhoeddwyr llyfrau Cymru heddiw i drafod y toriadau i’r sector.

Yn ôl Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, fe allai Cyngor Llyfrau Cymru wynebu toriad o 10.6% yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17.

Fe ddywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru wrth golwg360 mai bwriad y cyfarfod heddiw yw “trafod â’r cyhoeddwyr a chasglu barn a syniadau.”

Fe esboniodd y bydd y Panel Grantiau Cyhoeddi yn cyfarfod diwedd yr wythnos nesaf i drafod sut i ymateb i’r toriadau, a bydd trafodaethau heddiw’n bwydo’n ôl i hynny.

Fe fydd y toriad yn £374,000 o’r gyllideb o £3,526,000, sy’n ostyngiad o dros ddwbl yr hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei wynebu, sef 4.7% o’i gyllid.

Fe fydd cyfarfod ar gyfer y cyhoeddwyr Cymraeg y bore yma, a’r cyhoeddwyr Saesneg yn y prynhawn.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal trafodaethau, er ein bod wedi bod yn gohebu a gwleidyddion yn galw ar y Llywodraeth i ailystyried,” meddai Elwyn Jones.

‘Effaith niweidiol’

Un fydd yn mynychu’r cyfarfod y bore yma yw Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa sy’n mynegi ei bryder am effaith y toriadau ar y diwydiant llyfrau.

“Bydd y toriadau yn sicr yn cael effaith ar faint o lyfrau sy’n cael eu cyhoeddi,” meddai.

Fe esboniodd ei fod yn edrych ymlaen at drafod â chynrychiolwyr o weisg tebyg.

“Allwn ni ddim dweud a fydd y Llywodraeth yn ailystyried y toriadau, ond yn sicr, mae’n rhywbeth rydyn ni’n pwyso amdano wrth iddyn nhw edrych ar y gyllideb ddrafft ar hyn o bryd.”

“Dy’n ni’n gobeithio y byddan nhw’n ailystyried y toriadau a’r effaith niweidiol y byddai’n ei gael ar awduron, artistiaid, darllenwyr a’r swyddi sy’n cael eu noddi.”

‘Fandaleiddio ariannol’

Fe ddywedodd yr awdures a’r golygydd o Bontarddulais, Bethan Mair, fod y toriadau i gyllideb y Cyngor Llyfrau yn “fandaleiddio ariannol.”

Hoffai weld y Llywodraeth yn “cydnabod fod toriadau i gyllidebau bach yn niweidiol iawn.”

Fe esboniodd y byddai “torri tua £300,000 o gyllidebau mawr fel addysg ac iechyd yn boer yn y môr, ond mae’n gadael effaith andwyol ar y diwydiant a’r diwylliant llyfrau yng Nghymru.”

Fe esboniodd fod y Cyngor Llyfrau wedi derbyn cyfres o doriadau yn flaenorol ac “wedi llwyddo yn rhyfeddol i gadw i fynd, ond mae hwn yn doriad i’r asgwrn.”

“Dw i’n bryderus iawn amdano, oherwydd gallai wneud niwed i’r Gymraeg yn y pendraw.”