Mae’r Cyngor Llyfrau wedi cael gwybod y byddan nhw’n wynebu gostyngiad o 10.6% yn ei gyllideb y flwyddyn nesaf.

Golyga hyn doriad o £374,000 mewn cyllideb gwerth £3,526,000, sy’n ostyngiad o dros ddwbl yr hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei wynebu, sef 4.7% o’i gyllid (£1.5m).

Bydd llai o arian ganddyn nhw felly i ddosbarthu i gyhoeddwyr drwy’r system grantiau ac mae’r Cyngor wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw flaenoriaethu wrth roi grantiau.

Mewn llythyr at y cyhoeddwyr, mae cadeirydd a phrif weithredwr y Cyngor Llyfrau  – yr Athro M Wynn Thomas ac Elwyn Jones – yn dweud bod hwn yn ostyngiad ‘sylweddol iawn’ ac yn ‘hynod heriol’.

‘Gosod blaenoriaethau’

“Rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ail-edrych eto ar ein costau a’n gwariant a pharatoi amcangyfrifon newydd,” meddai’r llythyr.

“Oherwydd maint y toriad fe fydd angen i ni osod blaenoriaethau ar gyfer y grant cyhoeddi gan sylweddoli y bydd yn anodd cynnal yr holl gynnyrch a’r gweithgaredd y mae’r darllenwyr wedi eu mwynhau dros y blynyddoedd diwethaf.”

Bydd arian cyfalaf y Cyngor yn parhau ar yr un lefel ar gyfer y flwyddyn nesaf ond dydy Adran Addysg Llywodraeth Cymru heb gadarnhau  faint o arian bydd gan y Cyngor i hyrwyddo darllen.

Bydd y Cyngor Llyfrau nawr yn trafod y mater gyda’r Panel Grantiau Cyhoeddi ac yn ceisio chwilio am nawdd ychwanegol gan y cais arian Loteri, a chydweithio â phartneriaid i geisio “cael y gorau o’r arian.”

Cyllideb ‘heriol’ Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17 yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad i’r Senedd dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt bod y setliad yn un “heriol” ac y bydd gostyngiad o 3.6% yng nghyllideb y Llywodraeth mewn termau real erbyn 2019-20.