Bydd dadl yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn ‘ma ar S4C yn dilyn pryderon cynyddol am ddyfodol y sianel.

Yn y ddadl, bydd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru yn galw am adolygiad annibynnol ar y ffordd mae’r sianel genedlaethol yn cael eu hariannu a hefyd am newid yn y dull o fesur nifer ei gwylwyr.

“Mae Plaid Cymru yn galw am adolygiad annibynnol i’r modd mae S4C yn cael ei ariannu yn y dyfodol ynghyd â rôl y sianel,” meddai wrth siarad cyn y ddadl.

Dywedodd y gallai Adolygiad Siarter y BBC, sy’n ystyried sut mae’r gorfforaeth yn cael ei hariannu, anwybyddu’r “rôl hanfodol” y mae S4C yn chwarae wrth gefnogi diwylliant Cymreig ymhlith pobol ifanc.

 

Dull ‘hen-ffasiwn’ o fesur gwylwyr

Mae Liz Saville Roberts hefyd am weld y dull o fesur gwylwyr S4C yn newid gan nad yw’r dull BARB (Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr), sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn ystyried gwylwyr iau a’r rhai sy’n troi at y sianel ar blatfformau digidol.

“Mae’n ddull hen-ffasiwn o ddehongli barn y gynulleidfa sydd yn anochel yn cynhyrchu canlyniadau anghywir,” meddai.

“Mae Ofcom eisoes wedi cydnabod bod gan Gymru ddiffyg lluosogrwydd y cyfryngau. Er mwyn atal y duedd hon a diogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i’r llywodraeth gydnabod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth S4C ac ymrwymo fel mater o frys i ddiogelu ei chyllid.”

 

Gwrthwynebiad i’r toriadau

Fe gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref George Osborne, y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

Mae’r sianel eisoes wedi dioddef toriad o 35% yn ei chyllideb ers 2010 ac mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i’r penderfyniad diweddaraf i gwtogi, gyda llawer o aelodau Ceidwadol Cymreig hefyd yn anghytuno.

Dywedodd Guto Bebb AS dros Aberconwy wrth golwg360 ar y pryd ei fod “methu dirnad” y penderfyniad a’i fod yn “groes i be oeddwn i wedi cael fy arwain i’w ddisgwyl”.

“Mae’r toriad yn gamgymeriad ac yn gam gwag a bydd o’n gwneud dim lles i’r blaid yng Nghymru,” meddai.