Guto Bebb
Ar drothwy rali Cymdeithas yr Iaith i danlinellu pwysigrwydd S4C yng Nghonwy yfory, mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb wedi dweud wrth golwg360 bod modd gwyrdroi’r penderfyniad i docio £1.7m o gyllideb y Sianel Gymraeg.

Fe gyhoeddwyd yn natganiad adolygiad gwariant yr hydref George Osbourne echdoe, y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

Dywedodd Guto Bebb ei fod “methu dirnad” y penderfyniad a’i fod yn “groes i be oeddwn i wedi cael fy arwain i’w ddisgwyl”.

“Mae’r toriad yn gamgymeriad ac yn gam gwag a bydd o’n gwneud dim lles i’r blaid yng Nghymru.”

“Egwyddor sy’n bwysig”

Mae cyllideb S4C wedi gostwng 40% ers 2010, a’r rhan fwyaf o’r £80 miliwn sy’n cael ei wario ar deledu Cymraeg  yn dod gan y BBC, sydd hefyd yn darparu gwerth tua £20miliwn o raglenni i’r Sianel Gymraeg.

Felly mae’r cwtogiad o £1.7m yn llai na 2% o’r hyn sy’n cael ei wario ar deledu Cymraeg.

Ond nid y ffigwr sy’n bwysig yn ôl Guto Bebb.

“Yr egwyddor sy’n bwysig fan hyn,” meddai.

“Dyw’r ffaith fod y swm yn fach ddim yma nac acw. Pan benderfynwyd y byddai’r BBC yn ariannu’r rhan fwyaf o S4C, ro’n i’n cytuno â’r penderfyniad hwnnw. Ond os ydan ni’n meddwl bod angen i S4C gael ei chyllido’n deg gan y BBC, ac yn torri cyfraniad y Llywodraeth i’r sianel, yna mae penderfyniad fel hyn yn hynod beryglus.”

Ychwanegodd AS Aberconwy fod ei etholwyr yn ogystal â sawl AS ac AC Ceidwadol yn pryderu am y penderfyniad a bod “ymdeimlad fod yr hyn a ddywedwyd wrthym ni” wedi mynd i’r gwynt.

“Mae etholwyr sy’n ymwneud â’r Gymraeg, a rhai di-Gymraeg, yn siomedig tu hwnt. Dw i’n gwybod fod Darren Millar AC wedi derbyn cwynion ac mae Paul Davies AC a’r Aelod Seneddol Simon Hart yn pryderu – Simon yn enwedig gan fod S4C yn bwriadu symud ei phencadlys i Gaerfyrddin.”

Tro pedol?

Gyda’r datganiad ar wariant wedi ei wneud, oes unrhyw siawns o wyrdroi’r penderfyniad gan Lywodraeth Prydain?

“Pan mae ASau yn penderfynu bod angen newid – fe all hynny ddigwydd,” esbonia Guto Bebb.

“Roeddwn i’n un o’r ASau wnaeth wrthwynebu’r toriadau i’r credydau treth. Roedd hwnnw werth £4 biliwn ac mae’r Canghellor wedi ei wyrdroi oherwydd gwrthwynebiadau ASau a’r cyhoedd.

“Os allwn ni newid meddwl y  Llywodraeth ar swm mor fawr, dyw £1.7 miliwn ddim llawer mewn cymhariaeth.  Dw i’n benderfynol o ddarganfod be ddigwyddodd, dw i’n meddwl mai penderfyniad munud olaf oedd o, a dw i eisiau mynd a’r maen i’r wal oherwydd hyn.”

Codi pont yng Nghonwy

Nid ar chwarae bach mae Aelod Seneddol  Aberconwy wedi cytuno i annerch Cymdeithas yr Iaith. Y tro diwethaf i’r Llywodraeth dorri cyllid S4C yn 2011, Guto Bebb fe ddywedodd fod  “y Gymdeithas wedi’i chymryd drosodd gan fyfyrwyr anaeddfed” wedi iddyn nhw anharddu ei weithle.

Meddai Guto Bebb: “Y tro diwethaf  oedd gen i unrhyw beth i’w wneud gyda’r Gymdeithas, roedden  nhw’n paentio sloganau ar swyddfa’n etholaeth i yn 2011. Mae’n gam mawr annerch y rali felly, ond dw i’n teimlo ei fod o’r peth iawn i wneud.”