Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan (llun: Ben Birchall/PA)
Mae disgwyl i Archesgob Cymru gondemnio Llywodraeth Prydain am y ffordd y bu iddi drin ffoaduriaid o Syria, a’i chyhuddo o dderbyn rhy ychydig ohonyn nhw i’r wlad.

Yn ôl Dr Barry Morgan mae Prydain “yn rhannol gyfrifol am yr argyfyngau” yn Syria ac Afghanistan.

Yn ei bregeth Nadolig eleni bydd yn haeru bod Prydain wedi methu neu’n gwrthod â gweld y darlun ehangach, gan dderbyn nifer gymharol fechan o’r rheiny sydd yn ffoi’r gwrthdaro.

Daw ei bregeth yn dilyn y newyddion bod rhagor o ffoaduriaid wedi boddi wrth geisio croesi o Dwrci i Wlad Groeg yr wythnos hon.

‘Prydain yn rhannol gyfrifol’

“Mae’r drafodaeth wedi bod yn canolbwyntio ar faint o ffoaduriaid ddylen ni dderbyn. Rydyn ni’n anghofio gofyn, neu falle’n penderfynu anghofio pam mae cymaint ohonynt yn y lle cyntaf,” – dyna mae disgwyl i Archesgob Cymru ddweud yn ei bregeth Nadolig yng Nghadeirlan Llandaf.

“Fel y dywedodd un bardd Somali, ‘pam bod mam yn rhoi ei phlant mewn perygl ar gwch bregus yng nghanol y môr mawr? Am ei bod hi’n credu fod y môr yn saffach na’r tir’.

“Mae’r bobl yma’n dianc rhag gormes a marwolaeth yn Syria ac Afghanistan ble roedd Prydain yn sicr yn rhannol gyfrifol am yr argyfyngau.

“Mae gan yr Iorddonen a Lebanon pedwar miliwn o bobl mewn gwersylloedd lloches ac rydyn ni’n dadlau dros dderbyn 20,000. Onid yw hynny’n fethiant dychymyg ar ein rhan ni?

“Ble mae ein synnwyr maint ni? Mae 500miliwn o bobl yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd, dim ond 350,000 o ffoaduriaid sydd wedi ffoi – llai na 0.1% o boblogaeth Ewrop.”