Mae o leiaf 13 o bobl wedi boddi ac mae un person arall ar goll ar ôl i gwch yn cludo tua 25 o ffoaduriaid suddo yn y Môr Aegeaidd, meddai’r awdurdodau yng Ngwlad Groeg.

Dywed gwylwyr y glannau bod saith o blant, pedwar dyn a dwy ddynes ymhlith y meirw. Cafodd 15 o bobl eu hachub ac mae’r chwilio’n parhau am y person arall.

Credir eu bod nhw wedi cychwyn eu taith yn Nhwrci ac fe ddigwyddodd y ddamwain ger ynys fechan  Farmakonissi.

Mae o leiaf 820,000 o ffoaduriaid ac ymfudwyr economaidd wedi cyrraedd ynysoedd dwyreiniol Gwlad Groeg eleni, gan groesi’r môr mewn cychod bregus. Mae’r rhan fwyaf wedi teithio i’r gogledd gan obeithio am fywyd gwell yng ngwledydd mwy cyfoethog Ewrop.

Mae cannoedd o bobl eraill wedi boddi neu ar goll.