Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd Sir Gâr sy’n fuddugol yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2015.

Daeth Eryri a Meirionnydd yn gydradd ail, gyda Ceredigion yn cipio’r pedwerydd safle, Penfro’n bumed ac Ynys Môn yn chweched.

Sir Gâr fydd hefyd yn gwesteio’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Côr Meirionnydd yn ennill

Yn gynharach fe enillodd Endaf Griffiths y gadair am gerdd i T Llew Jones a gafodd ei disgrifio fel “cyfanwaith crwn, cyfan” gan y beirniad.

Meirionnydd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y côr i gloi’r noson, gyda saith wedi cystadlu.

Huw Foulkes a Gwenan Gibbard oedd y beirniaid cerdd ac fe ddywedon nhw fod y gystadleuaeth o “safon yn uchel” a’u bod wedi “swyno yn fawr”.

Bydd mwy o hanes ac uchafbwyntiau’r dydd i ddilyn ar Golwg360.