Endaf Griffiths yn ennill cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2015
Cerdd gaeth sydd wedi mynd â chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru eleni wrth iddi gael ei chynnal yn Aberystwyth.

Endaf Griffiths o glwb Pontsian, Ceredigion, yw’r bardd buddugol am gerdd ar y testun Taith.

Mae’r bardd 21 oed yn astudio ar gyfer MPhil ym Mhrifysgol Aberyswyth ar hyn o bryd ar waith T. Llew Jones.

Mae’r gerdd fuddugol yn gymysgedd o awdl gynganeddol a darn rhydd yn dynwared un o gerddi enwoca’ T. Llew Jones, Cwm Alltcafan.

Roedd Endaf Griffiths eisoes wedi creu darn o hanes wrth ennill cadair Ffermwyr Ifanc Ceredigion, a hynny flwyddyn ar ôl ennill cadair Sir Gâr.

Beirniadaeth

Beiriniad y gadair eleni oedd Gwen Edwards, cyn bennaeth Adran y Gymraeg Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

“Daeth 10 ymgais i law yn y ddwy gystadleuaeth,” meddai Gwen Edwards wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Roedd y rhyddiaith o safon uchel iawn, ac roeddwn i wedi mwynhau’r darllen er mai themâu trist a digalon sydd ynddyn nhw.”

Fe ddisgrifiodd cerdd fuddugol Endaf Griffiths, a ddefnyddiodd y ffugenw Sion Cwilt, yn “deyrnged i T Llew Jones” a “cherdd amserol iawn”.

“Mae’r dychymyg yn creu arswyd cwn Annwn a gwrach ar ei hysgub. Yng nghorff y gerdd ceir cerdd rydd yn lled baradïo Cwm Alltcafan. Mae tafodiaith T Llew Jones yn britho’r gerdd ac yn dod â ni yn nes ato.

“Mae yma gyfanwaith, crwn, cyfan.

“Mae’r gerdd yn llifo’n rhwydd gan guddio’r grefft y tu ôl iddi.”

Dwy gystadleuaeth?

Roedd y gadair eleni yn agored i ryddiaith neu farddoniaeth, ond mae Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc wedi dweud wrth Golwg360 eu bod wedi cynnal trafodaethau er mwyn ystyried â ddylen nhw gynnal cystadlaethau ar wahân yn y dyfodol.

Mae Endaf Griffiths yn ennill cadair a wnaed gan saer ifanc o Feirionnydd, Aled Llŷr Davies, ac aelod o glwb Bryncrug. Cafodd ei noddi gan gwmni Cig Oen Maethlon.

Gallwch weld holl ganlyniadau llwyfan y dydd, yn ogystal â rhai o hunluniau’r eisteddfotwyr ifanc, ar gyfrif Twitter @Golwg360.