Adeilad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (llun: cc/King4aday)
Mae Swyddog y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi awgrymu bod golygydd cynorthwyol gwefan newyddion yn euog o “gasineb” yn dilyn erthygl a gafodd ei chyhoeddi yn “sarhau’r Gymraeg”.

Ac mae wedi galw am gynnwys ymddygiad o’r fath mewn deddfau sy’n ymwneud â throseddau casineb.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd The Tab Cardiff neges Facebook yn dilorni’r iaith, gan godi gwrychyn nifer o fyfyrwyr prifysgol y brifddinas.

Ond mae’r golygydd cynorthwyol a bostiodd y neges honno bellach wedi cyhoeddi erthygl arall, nid yn ymddiheuro ond yn hytrach yn parhau i ladd ar y Gymraeg a’i galw yn “ffos garthion”.

Yn ôl Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd mae sylwadau diweddara’ Oli Dugmore am yr iaith yn “annerbyniol” ac mae wedi galw am ailystyried y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chasineb.

Gwawdio Tryweryn

Yn ei erthygl ddiweddaraf mae Oli Dugmore yn honni mai Saesneg yw iaith y Cymry ac mai’r unig adeg y maen nhw’n troi at y Gymraeg yw er mwyn gwawdio pobol o’r tu allan mewn ffordd ‘fewnblyg’.

Wrth ymateb i’r feirniadaeth a gafodd yn sgil y sylwadau’r wythnos diwethaf mynnodd Oli Dugmore mai “lleiafrif amhwysig ond swnllyd iawn” o siaradwyr Cymraeg oedd wedi ymateb mewn “pwl o ddicter hunangyfiawn”.

Aeth ymlaen i ailddweud ei fod yn credu bod yr iaith Gymraeg “yn marw” gan holi pam fod arian cyhoeddus yn cael ei daflu, mewn gwlad dlawd, i “ffos garthion yr iaith Gymraeg”.

Gwawdiodd hefyd y rheiny oedd yn cofio boddi cwm Tryweryn gan honni bod unrhyw un oedd ag owns o uchelgais yn ceisio dianc o’r wlad cyn gynted ag yr oedden nhw’n clywed yr iaith.

‘Sothach’

Wrth ymateb i’r sylwadau diweddaraf dywedodd Steffan Bryn ei fod yn hyderus y bydd yr Undeb Myfyrwyr yn cefnogi cynnig y mae wedi’i gyflwyno i “anfon neges gref nad ydym yn goddef gwahaniaethu ar sail iaith nac unrhyw sail arall”.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod The Tab Cardiff yn parhau â’u hymosodiad ar siaradwyr Cymraeg a Chymru gyda’r sothach diweddaraf hwn o du Oli Dugmore,” meddai Steffan Bryn.

“Rwy’n sicr y bydd fy nghynnig i Senedd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yng ngoleuni’r sarhad diweddaraf, yn derbyn cefnogaeth lawn ac eang yr aelodau.

“Rydym yn parhau i aros am ymateb gan Brifysgol Caerdydd sydd â rhan ganolog i chwarae yn hyn oll er mwyn gwarchod eu myfyrwyr Cymraeg ac i ateb ynghylch sut mae agweddau o’r fath am Gymru a’i diwylliant yn gallu bodoli ymhlith corff y myfyrwyr.”

Holi Carwyn

Mynnodd Steffan Bryn ei bod hi’n bryd codi cwestiynau ynglŷn â sylwadau o’r fath ynglŷn â’r iaith a holi a ddylai’r ddeddf fod yn fwy llym.

“Ar nodyn ehangach, gwyddom fod gennym ‘ryddid’ i siarad Cymraeg yn ôl Mesur y Gymraeg 2011; fodd bynnag, rhaid cwestiynu a ydi’r gyfraith yn ddigonol i warchod siaradwyr Cymraeg yn wyneb y fath gasineb,” meddai Steffan Bryn.

“Casineb llwyr sydd yma ac mae troseddau casineb yn erbyn grwpiau lleiafrifol eraill yn anghyfreithlon eisoes.

“Os yw fy nghynnig yn derbyn cefnogaeth, bydd llythyr yn cael ei anfon gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd at y Prif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddynt edrych ar ehangu ar y ddeddfwriaeth bresennol er mwyn gwarchod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith rhag y fath agweddau rhagfarnllyd.”

Herio’r Tab

Ychwanegodd Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r erthygl yn lol anwybodus.

“Mae’r Gymraeg yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf o bobol Cymru yn ei mwynhau a’i thrysori – boed iddynt yn siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae’n iaith sy’n rhan o amrywiaeth diwylliannol ledled y byd sy’n cyfoethogi ein planed.

“Mae’n siomedig fod gwefan sy’n honni ei bod yn meithrin newyddiaduriaeth o’r safon uchaf yn darparu platfform i’r fath ragfarn, a byddwn ni’n ysgrifennu at eu golygyddion gan ofyn am ymddiheuriad.”