Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymateb yn chwyrn ar ôl i olygydd gwefan newyddion sydd yn cael ei redeg gan fyfyrwyr y brifysgol, ddilorni’r Gymraeg wrth dynnu sylw at stori am yr iaith.

Mae stori ar wefan The Tab Cardiff am grant o £1.8m gafodd ei roi i Brifysgol Caerdydd ar gyfer prosiect ymchwil i gofnodi’r Gymraeg – a sylw ar dudalen Facebook y wefan gan un o’r golygyddion yn gofyn beth yw pwynt yr iaith Gymraeg.

Mae hynny wedi cythruddo myfyrwyr, gyda rhai’n gofyn a fyddai The Tab Cardiff wedi postio sylw tebyg am unrhyw iaith arall.

Mewn ymatebion i’r myfyrwyr hynny fe fynnodd un o olygyddion The Tab Cardiff na fyddai’n dileu’r stori gan amddiffyn ei sylwadau – ond bellach mae’n ymddangos bod y neges wedi cael ei thynnu i lawr.

Yr iaith yn ‘ddiwerth’

Wrth bostio linc i’r stori newyddion fe ychwanegodd un o olygyddion y dudalen, Oli Dugmore, neges yn dweud ‘What is even the f******* point’.

Pan gafodd ei gwestiynu am y neges ar Facebook gan un myfyriwr o Gaerdydd, Morgan Owen, mynnodd golygydd The Tab Cardiff fod ei sylwadau yn rhai teilwng.

Meddai Oli Dugmore mewn neges: ‘Fe wnes i sgwennu’r sylw yna oherwydd bod yr iaith yn ddibwynt. Lleiafrif bychan sy’n ei siarad, ac mae pob un ohonyn nhw’n siarad Saesneg. Fe welwch chi bod yr erthygl gafodd ei sgwennu gan Lucy [un o’r golygyddion eraill] yn stori newyddion. Roedd y neges gafodd ei sgwennu gen i ar Facebook yn ychwanegiad ysgafn i stori oedd fel arall yn blaen.’

“Mae cael dwy iaith yn lle un yn ddiwerth,” meddai mewn neges hwyrach. “Mae gwario arian ar gadw un does bron neb yn siarad hefyd yn ddiwerth.”

Pan ofynnwyd i Oli Dugmore ddileu’r neges, dywedodd nad oedden nhw’n dileu straeon “yn seiliedig ar os yw pobl yn eu hoffi nhw neu ddim”, gan ychwanegu ei fod wedi “nodi ei dristwch” ar y mater.

‘Agweddau trefedigaethol’

Erbyn y bore yma fodd bynnag mae’n ymddangos fod y neges wedi cael ei dileu oddi ar y dudalen Facebook, er bod y stori wreiddiol yn cyfeirio at gyllid tuag at “yr iaith sy’n marw” dal ar y wefan.

Fe gadarnhaodd Oli Dugmore wrth golwg360 mai ef oedd yn gyfrifol am y neges Facebook wreiddiol, ond nid yw The Tab Cardiff wedi ymateb hyd yn hyn i ymholiadau pellach.

Dywedodd Morgan Owen fod y neges yn arwydd pellach o agweddau dilornus gan rai tuag at y Gymraeg o hyd.

“Unwaith yn rhagor, rydym wedi gorfod dygymod ag anwybodaeth, os nad gelyniaeth, tuag at ein hiaith frodorol yn ein gwlad ein hunain,” meddai wrth golwg360.

“Pe bai’r awduron wedi dweud pethau tebyg am unrhyw iaith leiafrifol arall, diau y byddai wedi bod ymchwiliad swyddogol am hyrwyddo casineb yn erbyn y lleiafrif.

“Dengys y sefyllfa hon cyn lleied o barch sydd at y Gymraeg gan bobl sydd wedi dewis o’u gwirfodd i symud i Gymru. Mae agweddau trefedigaethol yn fyw yng Nghymru o hyd.”

GymGym yn beirniadu

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd (GymGym), Dylan Williams, fod y ffrae ddiweddaraf yn arwydd arall o’r angen i gael swyddog llawn amser â chyfrifoldeb dros y Gymraeg o fewn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

“Mae’r erthygl a ysgrifennwyd gan un o fyfyrwyr y brifysgol yn dystiolaeth gadarn o’r agweddau gwrth Gymraeg a’r anwybodaeth llwyr am Gymru a’i diwylliant ymhlith rhannau mawr o gorff y myfyrwyr,” meddai Dylan Williams.

“Mae’r erthygl yn targedu prosiect sydd yn cael ei ariannu a’i redeg gan y Brifysgol ei hun. Yn ogystal bu gohebwyr The Tab ar gampws a thir y Brifysgol yn harasio staff a myfyrwyr gyda chwestiynau na fyddai byth yn cael eu derbyn na’u goddef gan unrhyw grwp leiafrifol arall.

“Mae angen rwan i Brifysgol Caerdydd gamu mewn i gondemnio’r erthygl a chadarnhau eu safbwynt am werth y Gymraeg iddi fel prifysgol sydd ar y brig yng Nghymru.

“Mae’n hollol annerbynniol i unrhyw grwp lleiafrifol ddioddef y fath gasineb sefydliadol a mae’r ffaith fod y Gymraeg yn cael ei thargedu yma ym mhrifddinas Cymru yn dangos fod angen newid mawr ar frys. Dyma’r agweddau erchyll mae myfyrwyr Cymraeg y brifysgol hon yn eu wynebu yn ddyddiol – yn eu prifddinas eu hun.

“Mae’r achos dros swyddog llawn-amser ar gyfer y Gymraeg yn gwbl amlwg yn wyneb y fath agweddau ymhlith corff y myfyrwyr. Dyma’r unig ffordd y gallwn sicrhau bod buddiannau myfyrwyr Cymraeg yn cael eu gwarchod ac mae angen i’r Brifysgol gamu mewn ac ariannu’r swydd yn uniongyrchol. Atgyfnerthwn ein galwadau blaenorol am gyfarfod ar frys gyda’r Is-Ganghellor Colin Riordan yng ngoleuni’r sarhad diweddaraf hwn.”

Stori: Iolo Cheung