Cyngor Sir Ceredigion
Mewn cyfarfod ynglŷn â dyfodol ysgolion cynradd Dyffryn Aeron, fe wnaeth Cabinet Cyngor Ceredigion gymeradwyo opsiwn i sefydlu ysgol ardal yn y gymuned.

Mae’r opsiwn hwn yn golygu y bydd ysgolion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felin-fach yn uno ar safle newydd ar gampws Canolfan Addysg Felin-fach.

Fe fydd y Cyngor yn cynnal cyfnod ymgynghori â rhieni, staff a llywodraethwyr yn awr, ac fe fydd yr opsiwn yn cael ei gyflwyno i’r Panel Adolygu Ysgolion, ac yn amodol ar brosesau galw i mewn y Cyngor.

Cyfarfod

Daw’r cyhoeddiad hwn wedi i’r Cabinet gynnal cyfarfod y bore yma i drafod pedwar opsiwn posib ar gyfer addysg yr ardal. Roedd yr opsiynau eraill yn cynnwys sefydlu ysgol ardal ar safle newydd a chanolog, parhau â’r drefn bresennol neu gau ysgol Cilcennin yn unig sydd â’r nifer lleiaf o ddisgyblion a’r canran uchaf o lefydd gwag.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, byddai ad-drefnu yn gostwng nifer y llefydd gwag ac yn lleihau cost yr addysg fesul disgybl, gan ddarparu’r cyfleusterau diweddaraf i’r disgyblion.

Codi cwestiynau gwario

“Pam bod nhw’n ystyried gwario’r holl arian yma am ysgol dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod os ydy’r cymunedau ei heisiau eto?” meddai Hywel Ifans, un fu’n flaenllaw yn yr ymgyrchoedd diweddar i gadw Ysgol Dihewyd ar agor.

Cyn trafod cau’r ysgolion, roedd Cabinet Cyngor Ceredigion wedi bod yn trafod codi tâl ar ddisgyblion ôl-16 oed i deithio i’r ysgol, er mwyn arbed arian.

“Maen nhw’n edrych ar arbed arian pitw ac yn llythrennol y munud nesa, yr eitem nesa (ar yr agenda) yw gwario miliynau,” ychwanegodd Hywel Ifans.

“Ni wedi neud e (achub yr ysgol) ddwywaith,” meddai am yr ymgyrch i gadw Ysgol Dihewyd ar agor, “felly mae’n rhwystredig bod yn yr un sefyllfa.”

‘Yr unig opsiwn’

“Gan fod bwriad i siarad gyda chymunedau rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud o ddifrif ac yn agored i unrhyw syniadau – nad mynd i geisio darbwyllo cymunedau i dderbyn beth mae’r cyngor eisiau ei wneud bydd hyn,” meddai Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n arwyddocaol eu bod wedi dewis datblygu cynllun ar gyfer un opsiwn yn unig, gan gadarnhau’r hyn roedden ni’n ei amau o’r dechrau – mai hon oedd yr unig opsiwn mewn gwirionedd.

“Yn lle bygwth pedair ysgol rydyn ni’n argymell creu Ffederasiwn Dyffryn Aeron – drwy gyfuno’r Ysgol Uwchradd gyda’r ysgolion cynradd yn y dre a’r pedair ysgol wledig yn y dyffryn.

“Gellid datblygu safle Felin-fach fesul dipyn yn ganolfan ddiwylliannol i holl ysgolion Ceredigion, gan wrthweithio tueddiadau diweddar i wneud y cwricwlwm yn gul.”