Cyngor Ceredigion (Llun: Humphrey Bolton CCA 2.0)
Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn penderfynu ar ddyfodol pedair ysgol wledig sydd dan fygythiad heddiw.

Mae disgwyl i gorff rheoli’r cyngor ddod i benderfyniad ar gau ysgolion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felin-fach yn Nyffryn Aeron erbyn amser cinio.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu, Ceredigion y bydd yn ceisio cael barn cymunedau lleol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Cyfrifoldeb y Cabinet yw hi bellach i benderfynu ar y camau nesaf, ac mae pedwar opsiwn yn cael eu ffafrio:

  1. Parhau gyda’r sefyllfa bresennol o 10 ysgol yn nalgylch Aberaeron
  2. Cau Ysgol Cilcennin (sydd â’r nifer lleiaf o ddisgyblion a’r canran uchaf o lefydd gwag)
  3. Sefydlu Ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron ar safle Canolfan Addysg Broffesiynol Felin-fach (ar gyfer disgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felin-fach).
  4. Adeiladu Ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron ar safle canolog (ar gyfer disgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felin-fach)

Lleoedd gwag

Yn ôl adroddiad y cyfarfod heddiw, roedd 27 o leoedd gwag yn Ysgol Cilcennin ym mis Ebrill eleni, sef 48% o gapasiti’r ysgol.

10.3% o gapasiti Ysgol Ciliau Parc oedd yn wag, doedd gan Ysgol Dihewyd yr un lle gwag ac roedd gan Ysgol Felin-fach 21.7% o’i chapasiti yn wag.

Mae’r gost fesul disgybl yn Ysgol Cilcennin hefyd yn £5,155 i’r Cyngor, tra bod cynnal ysgolion eraill Dyffryn Aeron yn costio rhwng £3,100 i £4,100, ar wahân i Ysgol Dihewyd, sy’n costio £4,975 fesul disgybl.

Brwydr

Ond yn ôl ymgyrchwyr, dydy adroddiad y Cyngor ddim yn “cefnogi eu hachos” dros gau’r ysgolion.

Mae’n nodi yn yr adroddiad y bydd niferoedd plant yn codi yn ystod y blynyddoedd nesaf (oni bai am Ysgol Cilcennin) a bod cyflwr adeiladau tair o’r pedair ysgol sydd dan fygythiad yn y categori uchaf ond un (oni bai am Ysgol Dihewyd).

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn brwydro i gadw’r ysgolion ar agor, gan greu “Ffederasiwn Dyffryn Aeron”, a fyddai’n darparu canolfan ddiwylliannol i holl ysgolion Ceredigion.