Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith ei fod am ddiddymu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion. Yn ôl Carwyn Jones mae’n “labeli artiffisial”.

Yn ei le, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno un ‘continwwm’ dysgu Cymraeg i holl blant Cymru fel rhan o’r Cwricwlwm sy’n cael ei ddatblygu erbyn 2018.

Fe ysgrifennodd Carwyn Jones lythyr at Gymdeithas yr Iaith, yn dweud ei fod wedi cynnal trafodaethau â’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn dilyn cyfarfod â’r mudiad ar 18 Tachwedd 2015.

Yn ei lythyr, dywed Carwyn Jones: ‘Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.’

Mae’n cynnig un continwwm i holl blant Cymru, gan esbonio ‘efallai mai’r ffordd orau o ddisgrifio’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yw fel pont neu “gontinwwm” y gall unigolion gael mynediad ato ar wahanol fannau, yn unol â’u gallu.

‘Dylem edrych ar bawb ar y bont honno mewn ffordd bositif, ac annog pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg ar unrhyw lefel i ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, heb osod labeli artiffisial.’

‘Newyddion cadarnhaol’

Yn ymateb i’r llythyr, dywedodd Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn “newyddion cadarnhaol a chalonogol iawn”.

“Mae’r system addysg ail iaith yn methu’r rhan helaeth o’n pobl ifanc,”  meddai Toni Schiavone, “er bod enghreifftiau o athrawon yn cyflawni gwyrthiau o fewn y drefn ffaeledig bresennol.

“Dylai pob un disgybl adael yr ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy’r Gymraeg. Un ffordd o wneud hynny yw dileu’r llwybr eilradd, ail iaith, sy’n bodoli ar hyn o bryd.”

Fe groesawodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru’r ymrwymiad hefyd, gan ddweud ei bod “wedi bod yn glir ers cryn amser bod y drefn Cymraeg Ail Iaith yn aneffeithiol, ac wedi bod yn rhwystro datblygiad plant a phobl ifanc i’w llawn botensial.

“Edrychwn ymlaen at weld camau gweithredu pendant a buan gan y Llywodraeth.”

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a rhai mewn ysgolion dwyieithog yn sefyll arholiad Cymraeg gwahanol i’r rhai sy’n astudio Cymraeg iaith gyntaf.

Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013, fe ddywedodd yr Athro Sioned Davies, “ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg Ail Iaith … rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

Yn sgil hynny, argymhellwyd sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu’r Gymraeg.