Carwyn Jones - wedi addo, meddai'r Gymdeithas
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn gobeithio cael gwared ar y syniad o Gymraeg ail iaith mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd nesa’.

Roedd y mudiad iaith wedi cynnal cyfarfod â’r Prif Weinidog ddoe i drafod addysg Gymraeg gan ddweud wedyn ei fod wedi egluro y byddai newidiadau i’r cwricwlwm dros y blynyddoedd nesaf yn arwain at ‘ddisodli Cymraeg ail iaith’ a ‘dileu’r ffin rhwng Cymraeg ail iaith a Chymraeg iaith gynta’’.

Er hynny, dyw’r Llywodraeth ei hun ddim wedi cadarnhau’r union fanylion. Yn ôl llefarydd, roedd y cyfarfod wedi trafod “tynnu rhwystrau artiffisial oddi ar yr iaith”.

Fe fydd y Prif Weinidog yn sgrifennu at y Gymdeithas gyda “barn bellach maes o law,” meddai.

Cefndir

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros ddileu addysg Gymraeg ail iaith yn ysgolion Cymru gan alw ar i bawb gael addysg Gymraeg ‘gyflawn’.

” Er bod llawer o athrawon gweithgar iawn sy’n cyflawni gwyrthiau o fewn y system, mae’r cysyniad o Gymraeg ail iaith yn methu’r rhan fwyaf o’n pobol ifanc,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Fel argymhellodd yr Athro Sioned Davies [Prifysgol Caerdydd] yn ei hadroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth, mae angen un continwwm, neu lwybr, dysgu’r Gymraeg ar gyfer bob plentyn, a hynny yn lle’r system bresennol.

“Allwn ni ddim parhau â system addysg sy’n amddifadu cymaint o’n plant a phobol ifanc o’r Gymraeg.”