Mae tîm rygbi Cymru yn obeithiol y bydd George North ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn nhymor rhyngwladol yr hydref y penwythnos nesaf.

Mae George North wedi dioddef anaf i’w law yn ddiweddar, ond mae’n edrych yn debyg y bydd yn chwarae ar gyfer ei glwb, Seintiau Northampton, wrth iddyn nhw wynebu Caerloyw nos Wener.

“Rydyn ni wedi bod mewn cyswllt gyda’r Seintiau ac mae North yn gweithio’n galed i fod yn ffit erbyn y penwythnos,” meddai’r hyfforddwr Robin McBryde.

Mae amheuon hefyd a fydd Liam Williams, Jake Ball a Scott Williams ar gael ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng Nghaerdydd ar Dachwedd 5 yn erbyn Awstralia.

Daeth cadarnhad na fydd Taulupe Falatau ar gael ar gyfer y gêm honno oherwydd anaf i’w ben-glin, ond maen nhw gobeithio y bydd yn medru chwarae rhai o’r gemau dilynol.

Rob Howley sydd yng ngofal y garfan ar hyn o bryd tra bo Warren Gatland yn cymryd amser i ffwrdd i ganolbwyntio ar daith y Llewod y flwyddyn nesa’.

Mae rhestr lawn o’r garfan a gyhoeddwyd yr wythnos diwetha’ i’w gweld yma.