Rob Howley
Mae hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer Gemau’r Hydref fydd yn cychwyn y mis nesaf.

Fe fydd y crysau cochion yn chwarae pedair gem, gan gychwyn gydag Awstralia ar 5 Tachwedd, cyn symud mlaen i wynebu’r Ariannin, Japan a De Affrica.

Y newid mwyaf gan Howley, sy’n cymryd lle Warren Gatland wrth iddo gymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar y Llewod, yw cyflwyno Sam Davies o’r Gweilch yn lle Rhys Priestland fel Maswr.

Y garfan yn llawn:

Prop: Scott Andrews, Tomas Francis, Rhys Gill, Gethin Jenkins, Samson Lee, Nicky Smith.

Bachwr: Scott Baldwin, Kristian Dacey, Ken Owens

Ail Reng: Jake Ball, Luke Charteris, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Rory Thornton

Rheng Ôl: Dan Baker, Taulupe Faletau, James King, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Justin Tipuric, Sam Warburton (CAPT)

Mewnwr: Gareth Davies, Rhys Webb, Lloyd Williams

Maswr: Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Davies

Canolwr: Jonathan Davies, Tyler Morgan, Jamie Roberts, Scott Williams

Asgell/Cefnwr: Hallam Amos, Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny, George North, Liam Williams