Fe fydd Sam Warburton yn dychwelyd i dîm y Gleision am y tro cyntaf ers mis Tachwedd ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.

Bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan hyfforddwr Warren Gatland, sydd wedi enwi Warburton fel capten unwaith eto wrth i Gymru baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad mewn ychydig dros bythefnos.

Cafodd chwech arall o chwaraewyr y Gleision fydd yn herio Calvisano nos Wener hefyd eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson wedi gwneud 12 newid i’w dîm wrth iddyn nhw chwilio am y fuddugoliaeth pwynt bonws maen nhw ei angen er mwyn cyrraedd rownd nesaf Cwpan Her Ewrop.

Gwylio’r gemau eraill

Dan Fish, Alex Cuthbert a Cory Allen yw’r unig chwaraewyr sydd yn cadw’u lle yn y tîm, gyda Tom James a Josh Navidi ymysg y rheiny sydd yn dychwelyd.

Mae’n rhaid i’r Gleision drechu’r Eidalwyr gan ennill pwynt bonws ar y ffordd, a gobeithio bod canlyniadau eraill yn mynd o’u plaid, os ydyn nhw am gyrraedd rownd yr wyth olaf fel un o’r tri thîm orffennodd yn ail yn eu grŵp.

“Yr unig beth allwn ni ei wneud yw canolbwyntio ar ein perfformiadau ni a chael y pum pwynt rydyn ni ei angen,” meddai prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson.

“Fe fyddwn ni’n ymateb i beth sy’n digwydd yn y gemau eraill.”

Tîm y Gleision: Dan Fish, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Tom James, Gareth Anscombe, Tavis Knoyle; Gethin Jenkins (capt), Ethan Lewis, Dillon Lewis, Jarrad Hoeata, Lou Reed, Cam Dolan, Sam Warburton, Josh Navidi

Eilyddion: Matthew Rees, Thomas Davies, Scott Andrews, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Lloyd Williams, Rhys Patchell, Aled Summerhill