Warren Gatland, hyfforddwr rygbi Cymru (llun: Joe Giddens/PA)
Mae Warren Gatland wedi cynnwys mewnwr y Scarlets Aled Davies yng ngarfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sydd yn dechrau ymhen llai na thair wythnos.

Aled Davies yw’r unig un o’r garfan sydd eto i ennill cap dros ei wlad, wrth i’r hyfforddwr fynd am chwaraewyr profiadol ar y cyfan.

Mae maswr Caerfaddon Rhys Priestland hefyd wedi cael ei enwi ar ôl dryswch diweddar ynglŷn ag a oedd e wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol ai peidio.

Sam Warburton fydd capten y tîm unwaith eto, tra bod sawl un o’r chwaraewyr gafodd eu hanafu cyn neu yn ystod Cwpan y Byd llynedd fel Jonathan Davies, Liam Williams a Cory Allen yn dychwelyd.

Does dim lle fodd bynnag i Rhys Webb, Leigh Halfpenny a Scott Williams, sydd i gyd dal wedi’u hanafu, tra bod James Hook yn un o’r chwaraewyr sydd ddim wedi cael ei ddewis.

Carfan fwy

Mae Josh Turnbull, Tom James, Ross Moriarty a Matthew Morgan hefyd ymysg y 37 chwaraewr sydd wedi’u henwi, wrth i Warren Gatland ddewis grŵp mwy na’r disgwyl.

“Gan fod gennym ni ambell i anaf ychwanegol ar hyn o bryd, chwaraewyr yn agos at ddychwelyd i’r cae, rydyn ni wedi dewis ychydig mwy o chwaraewyr,” esboniodd Gatland.

“Mae ambell un ohonyn nhw wedi haeddu eu lle ar berfformiadau diweddar, fel Josh Turnbull … [ac] mae Aled Davies wedi bod ar y radar ers ’chydig o flynyddoedd.”

Dywedodd Gatland bod posib y gallai Rhys Webb wella mewn pryd i ddychwelyd i’r garfan cyn diwedd y gystadleuaeth.

Roedd 31 aelod o’r garfan ddiweddaraf hefyd yn rhan o’r grŵp gystadlodd yng Nghwpan y Byd, ac fe ychwanegodd yr hyfforddwr bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn gyfle i barhau â’r gwaith roedden nhw wedi’i wneud yn yr hydref.

“Rydyn ni’n eithaf hapus gyda ble rydyn ni. Mae’n rhaid i chi wobrwyo perfformiadau diweddar, ond hefyd mae sawl un wedi dangos nad ydyn nhw’n haeddu cael eu gadael allan o’r garfan eto,” meddai.

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Tomas Francis (Caerwysg), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Bradley Davies (Wasps), Dominic Day (Caerfaddon), Alun Wyn Jones (Gweilch), Josh Turnbull (Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton, capt (Gleision).

Olwyr: Aled Davies (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Cory Allen (Gleision), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Tom James (Gleision), George North (Northampton), Gareth Anscombe (Gleision), Matthew Morgan (Bryste), Liam Williams (Scarlets).