Tim Rygbi Cymru yn dathlu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad,
Mae angen i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ystyried tyfu a chynnwys timau newydd os ydi hi am weld y gêm yn ehangu ei hapêl ryngwladol, yn ôl pennaeth y corff rheoli rygbi yn Ewrop.

Yn dilyn perfformiadau Georgia a Rwmania yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni mae llywydd Rugby Europe, Octavian Morariu, wedi galw am ailystyried strwythur y gystadleuaeth flynyddol.

Ar hyn o bryd mae Cymru, Lloegr, Iwerddon, Ffrainc, Yr Alban a’r Eidal yn cystadlu yn y Chwe Gwlad, tra bod Rwmania a Georgia ar hyn o bryd yn herio Sbaen, Portiwgal, Rwsia a’r Almaen ym mhrif adran Cwpan Cenhedloedd Ewrop.

Ond mae angen i’r Chwe Gwlad ystyried agor ei drysau’n ehangach os yw dyfodol y gêm yn Ewrop yn mynd i ffynnu yn ôl Morariu, sydd o Rwmania.

Lle i saith neu wyth?

Yn 2012 fe ymunodd yr Ariannin â chystadleuaeth Pencampwriaeth Rygbi hemisffer y de gyda Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia, ac maen nhw bellach wedi sefydlu’i hunain ymysg y timau gorau yn y byd.

Yn ôl llywydd Rugby Europe mae angen cyfle tebyg ar dimau Ewropeaidd os ydyn nhw am wella safon eu gêm.

“Mae timau fel Georgia a Rwmania wedi profi eu bod yn gallu cystadlu yng Nghwpan y Byd ac angen gemau cyson yn erbyn y timau Ewropeaidd mwyaf,” meddai Octavian Morariu.

“Dyw hyn ddim jyst ynglŷn â dyrchafiad a chwympo yn y Chwe Gwlad, mae angen agor y gystadleuaeth i fwy o wledydd. Fe allai’r gystadleuaeth fod yn un i saith neu wyth gwlad.

“Mae angen dangos sut all hyn gael ei gyflawni achos dydyn ni ddim eisiau niweidio’r Chwe Gwlad. Y syniad yw ei gwneud hi’n fwy diddorol, cystadleuol a chynhyrchiol.”

Tyfu’r gêm

Mae Lynn Howells, y Cymro sydd yn hyfforddi tîm Rwmania, eisoes wedi dweud y dylai ail gynghrair Chwe Gwlad gael ei sefydlu gyda thimau’n codi a disgyn o’r naill i’r llall.

Ond mae’n debygol y byddai cynlluniau o’r fath yn cael eu gwrthwynebu’n chwyrn gan yr Eidal a’r Alban, y timau fyddai fwyaf tebygol o fod mewn perygl o golli eu lle ym mhrif adran y Chwe Gwlad.

Yn y bôn fodd bynnag mae angen i’r cyfle hwnnw fod ar gael os yw’r byd rygbi am weld mwy o wledydd yn chwarae’r gamp yn gystadleuol, yn ôl Octavian Morariu.

“Dim ond drwy gystadlu ar lefel uchel y mae gwledydd yn gwella a sefydlu’i hunain fel cenhedloedd cystadleuol,” meddai.

“Mae’r Ariannin yn chwarae rygbi gwych. Mae’n grêt i’w wylio ac os oes cyfleoedd felly yn cael eu cynnig i Georgia a Rwmania fe fydd e ond yn hybu’r gêm.

“Os yw World Rugby yn awyddus i ddatblygu’r gêm a’i gwneud hi’n un byd eang mae angen i’r bobl sydd â dylanwad edrych ar hyn yn sydyn.”