(llun CCA 3.0 wedi'i addasu)
Mae’r Cymro sy’n hyfforddi tîm rygbi Romania wedi galw am sefydlu ail gynghrair rygbi i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, lle byddai timau’n cystadlu am ddyrchafiad ac yn gorfod brwydro am gadw eu lle.

Dadl Lynn Howells, sydd hefyd yn un o gyn-hyfforddwyr cynorthwyol tîm Cymru, yw y byddai hyn yn ehangu’r gêm ledled Ewrop ac yn rhoi cyfleoedd i wledydd newydd.

Mae’n credu y dylai timau fel Romania a Georgia gael cyfle i ennill dyrchafiad i’r chwe gwlad a chymryd lle timau sy’n gorffen y tymor ar y gwaelod.

“Dw i’n meddwl y byddai’r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth well gyda dyrchafu a disgyn i lawr,” meddai.

“Byddai chwarae ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn freuddwyd i dimau fel Romania.”

Daw ei sylwadau wrth i Romania baratoi i herio Iwerddon yng ngwpan y byd heddiw.

“Rhaid inni allu perfformio a dangos i bobl y gallwn berfformio ar y safon yma,” ychwanegodd.

Daeth Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn chwech pan ymunodd yr Eidal yn 2000, ond wedi dod yn olaf yn y gystadleuaeth 10 gwaith yn yr 16 mlynedd ers hynny.

Mae’n sicr y byddai’r Eidal ac o bosibl yr Alban yn gwrthwynebu’r math o newidiadau mae Lynn Howells yn eu cynnig.