Ched Evans a'i gariad Natasha Massey adeg eu hymgyrch yn erbyn ei ddyfarniad euog (Llun o'u hymgyrch YouTube)
Fe allai yr achos treisio yn erbyn y chwaraewr pêl-droed Cymreig, Ched Evans, arwain at newid yn y gyfraith.

Dyna sydd wedi ysbrydoli cyn-ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, i gynnig gwelliant i’r Mesur Carchardai a Llysoedd sy’n mynd trwy Dŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd.

Fe fyddai hwnnw’n gwahardd yr hawl i gyfreithwyr yr amddiffyniad rhag holi’r fenyw mewn achos o drais am ei hanes rhywiol.

Fe gafodd tystiolaeth dau ddyn arall ei ddefnyddio’n amlwg wrth i lys gael Ched Evans yn ddieuog ar ôl iddo apelio yn erbyn dyfarniad euog cynharach.

“Bwlch yn y gyfraith”

Roedd bwlch yn y gyfraith, meddai Harriet Harman, a hwnnw wedi dod yn hollol amlwg yn achos Ched Evans.

“Mae’r ddadl wedi ei seilio ar y syniad fod dau fath o fenyw,” meddai. “Menyw sy’n haeddu cael ei choelio, sy’n rhinweddol, a menyw sydd wedi syrthio ac wedi cael rhyw o’r blaen a ddim yn haeddu cael ei choelio.”

Doedd hynny ddim yn berthnasol o ran y ffeithiau, meddai, gan ddweud fod ofn cael eu holi am eu gorffennol yn atal llawer o fenywod rhag dwyn cyhuddiadau.

Mae gwelliant Harriet Harman yn cael ei gefnogi gan Dame Vera Baird, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Northumbria.

  • Ym mis Chwefror, roedd AS Plaid Cymru tros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi cyflwyno mesur yn galw am newid tebyg.