Liz Saville Roberts (Llun: Plaid Cymru)
Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn cyflwyno Mesur Aelod Preifat yn San Steffan heddiw er mwyn ceisio newid y ffordd y mae unigolion yn cael eu croesholi yn y llys yn ystod achosion o dreisio.

Ar hyn o bryd, mae modd i fargyfreithwyr holi dioddefwyr am eu hanes rhywiol a’u hymddygiad yn y gorffennol. Ond gobaith Liz Saville Roberts, AS Dwyfor-Meirionnydd, yw dod â’r arfer hwnnw i ben.

Mae’r mesur, a gafodd ei lunio ar y cyd rhyngddi ac elusen Voice4Victims, wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol.

Yn ôl ystadegau 2015-2016, dim ond mewn 7.5% o’r 35,798 o achosion o gyhuddiad o ymosodiad rhyw y cafwyd neb yn euog.

Bydd y mesur yn cael ei gyflwyno ganol dydd heddiw (dydd Mercher) ym mhrif siambr Tŷ’r Cyffredin.