Newcastle United, y clwb diweddara' yn yr helynt (Martin LeRoy CCA3.0)
Mae cyn-bêldroediwr proffesiynol arall wedi dweud ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol yn ei ddyddiau yn chwaraewr ieuenctid.

Yn ôl y chwaraewr, sydd heb ei enwi, roedd wedi cael ei gam-drin pan oedd ar lyfrau Newcastle United.

Mae Heddlu Northumbria wedi cadarnhau wrth bapur y Guardian eu bod yn ymchwilio i’r honiadau wrth i bryderon gynuyddu fod y broblem yn eang iawn.

Mae Heddlu Swydd Caer eisoes yn ymchwilio i nifer o achosion a gododd o waith un hyfforddwr o’r enw Barry Bennell, yng nglwb Crewe Alexandra, sy’n enwog am ddatblygu chwaraewyr ifanc.

Y cefndir

Fe gododd y sylw i’r broblem ym myd pêl-droed ar ôl  i’r Guardian gyhoeddi adroddiad manwl newydd am oniadau yn erbyn Barry Bennell, sydd eisoes wedi cael ei garcharu dair gwaith am amrywiaeth o gyhuddiadau, gan gynnwys cam-drin a threisio bechgyn.

Fe benderfynodd pedwar cyn-chwaraewr proffesiynol siarad yn agored am eu profiadau ac mae o leia’ ddau ddyn ifanc arall wedi honni eu bod wedi gadael y gêm yn rhannol oherwydd eu bod wedi eu cam-drin.

Ddoe, roedd 50 o alwadau wedi dod i linell gymorth newydd mewn cyfnod o ddwy awr a gwybodaeth wedi ei throsglwyddo i’r heddlu am 20 o achosion.

Fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Clarke, eu bod wedi sgrifennu at 30,000 o glybiau yn tynnu eu sylw at y broblem.