Mae 11 o bobol wedi mynd at yr heddlu’n dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan hyfforddwyr pêl-droed, yn dilyn honiadau gan ddau gyn-chwaraewr.

Dywed cyn-chwaraewr Lerpwl a Spurs, Paul Stewart a chyn-chwaraewr Sheffield United, Andy Woodward, iddyn nhw gael eu camdrin gan hyfforddwyr pan oedden nhw’n blant.

Cyhoeddodd Woodward ei fod e wedi cael ei gamdrin gan Barry Bennell, oedd yn gweithio i Crewe Alexandra ar y pryd.

Mewn cyfweliad gyda’r Guardian, dywedodd Woodward fod Bennell wedi ei gamdrin am bedair blynedd, a bod hynny wedi dechrau pan oedd e’n 11 oed.

Cafodd Bennell ei garcharu yn 1998 ar ôl pledio’n euog i nifer o droseddau rhywiol.

Dywedodd Stewart ei fod yntau hefyd wedi cael ei gamdrin gan hyfforddwr a ddywedodd y byddai’n lladd ei deulu pe bai e’n dweud wrthyn nhw.

Dywedodd fod yr hyfforddwr wedi bygwth ei gamdrin ac ymosod arno pe bai e’n perfformio’n wael ar y cae.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaer eu bod nhw wrthi’n cysylltu â’r unigolion sydd wedi cyflwyno gwybodaeth, ond pwysleisiodd nad ydyn nhw wedi arestio unrhyw un hyd yn hyn.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi canmol Andy Woodward am siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau.