Owain Fôn Williams yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru (llun: CBDC)
Arwyddo i dîm oedd yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd, bod yn rhan o garfan ryngwladol sydd wedi creu hanes bythgofiadwy, ac ennill ei gap cyntaf yn erbyn un o dimau gorau’r byd – does dim amheuaeth bod y misoedd diwethaf wedi bod yn fendigedig i Owain Fôn Williams.

Cafodd y Cymro a’i gefnogwyr personol anrheg Nadolig cynnar yn ddiweddar wrth i’r golwr o Benygroes ennill ei gap gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd wrth ddod ymlaen fel eilydd i Wayne Hennessey.

Ac mae Owain Fôn, sydd bellach yn chwarae Inverness yn yr Alban, yn cyfaddef wrth Golwg360 ei bod hi’n foment na fydd byth yn ei anghofio.

“Mae’n siŵr bod y cyfnod yma’n uchafbwynt ar fy ngyrfa i,” meddai.

“Wrth gwrs does ‘na ddim byd yn dod yn agos at ennill cap i fy ngwlad, dw i ddim yn meddwl bydd ‘na fyth deimlad sy’n gallu curo hwnna.

“Mae’r ffaith mod i’n rhan o garfan sydd wedi cyrraedd twrnament mawr, rhywbeth sydd heb gael ei gyflawni am bron i 60 mlynedd, mae o’n fraint i fi bod yn rhan o’r holl beth.

“Dw i mor falch mod i’n cael bod yn rhan ohono fo – fel dw i’n deud wrth bawb, os oeddwn i ddim yn rhan o’r tîm fyswn i yna’n cefnogi nhw, ond mae bod yn rhan o’r tîm yn anhygoel i fi.”

Stori: Carfan Cymru yn llongyfarch Owain Fôn

Breuddwyd y golwr-gefnogwr

Mae breuddwydion llawer o Gymry wedi dod yn fyw yn ddiweddar, wrth i’r garfan genedlaethol guro Gwlad Belg a pherfformio’n anhygoel mewn sawl gêm yn ystod yr ymgyrch llwyddiannus i gyrraedd Ffrainc.

Ar ôl profi’r teimlad o ddilyn y tîm fel cefnogwr yn ystod ei blentyndod, cyfaddefodd Owain Fôn ei bod hi’n anodd disgrifio’r teimlad rŵan o fod ar yr ochr arall.

“Dw i ‘di dilyn Cymru drwy gydol fy mhlentyndod a ro’n i’n ddigon lwcus wedyn i gael gyrfa mewn pêl-droed a chael lle yn y garfan ryngwladol, felly dw i’n gwybod yn union beth mae’n golygu i bob cefnogwr sy’n teithio i wahanol wledydd a lawr i Gaerdydd i weld y tîm yn chwarae,” meddai.

“Ond dw i ‘di gweld yr ochr arall hefyd, wrth fod yn rhan o’r garfan a hefyd rŵan yn chwarae i’r tîm ar y cae. Mae’n anhygoel, fedra’i ddim disgrifio sut mae’n teimlo, mae’n anodd ei roi o fewn i eiriau, mae’n freuddwyd!”

Diolchgar

Roedd trwch o gefnogwyr wedi bod yn galw ers sbel ar i’r golwr gael ei gap cyntaf, ac yntau wedi treulio 29 gêm ar fainc Cymru ers cael ei alw i’r garfan am y tro cyntaf chwe blynedd yn ôl.

Mae’n amlwg yn un o ffefrynnau’r cefnogwyr oherwydd ei ymroddiad i’r tîm ac fe ddangoswyd hynny gan sŵn y dorf wrth iddo ddod i’r cae yn erbyn yr Iseldiroedd, rhywbeth wnaeth argraff fawr arno.

“Roedd o’n anghredadwy i glywed, anhygoel, yr holl sŵn yna i fi,” cyfaddefodd Owain Fôn.

“Yn enwedig oherwydd mod i heb gael y cyfle i fod ar y cae o’r blaen, a chlywed yr holl weiddi a phobl ar eu traed a phawb eisiau i mi gael cyfle.

“Dw i mor ddiolchgar i bawb oedd yno ar y noson yn cefnogi fi ac i bawb sydd ‘di rhoi clod i fi ers hynny, fedra’i ddim diolch iddyn nhw ddigon.”

Emosiwn

Mae rheolwr y tîm Chris Coleman wedi cael ei ganmol gan bawb yn ddiweddar am y ffordd mae o wedi hyfforddi ei garfan a datblygu perthynas gref â’i chwaraewyr.

Ac mae Owain Fôn yn gwerthfawrogi cyfraniad y rheolwr, yn ogystal â’i eiriau o gyngor cyn iddo gamu i’r cae nos Wener.

“Mi wnaeth Chris Coleman jyst ddeud wrtha i ‘dos ar y cae a mwynhau, ti ‘di gweithio’n ddigon caled a ti’n haeddu’r cyfle yma’,” meddai’r golwr.

“Dyna nes i, cerdded ar y cae fel tasa fo’n unrhyw gêm arall, er doedd o ddim achos roedd o’n achlysur arbennig i fi. Ond roedd rhaid i fi weld y gêm fel unrhyw un arall, achos doeddwn i ddim eisiau i’r emosiwn gael y gorau ohonof i allan ar y cae ‘na.”

Y gic gornel olaf

Er iddo ildio un gôl yn ystod ei ugain munud ar y cae, daeth moment fwyaf cofiadwy’r cefnogwyr o gêm gyntaf Owain Fôn Williams dros Gymru yn eiliadau olaf y gêm.

Wrth i Gymru baratoi i gymryd cic gornel, a hwythau’n colli o 3-2, fe chwifiodd y dorf ar y golwr i ymuno â’r ymosod er mwyn ceisio cipio gôl hwyr a choroni’i gap cyntaf yn y modd gorau posib.

Roedd hi’n edrych fel petai’r posibiliad wedi temtio Owain Fôn am eiliad, cyn iddo benderfynu aros ble roedd o ar y llinell hanner.

Ond mynnodd y golwr nad oedd erioed wedi bwriadu rhedeg am y cwrt cosbi er mwyn ceisio sgorio’r gôl oedd ei angen ar Gymru.

“Roedd pawb yn meddwl mod i eisiau mynd fyny i’r hanner arall!” chwarddodd Owain Fôn.

“Ond i fod yn onest ro’n i’n trio gweiddi un o’r hogiau nôl achos roedd pawb ‘di mynd ‘mlaen a doeddwn i ddim eisiau ildio gôl arall, ddim mod i eisiau mynd i’r bocs arall.”

Stori: Jamie Thomas