Owain Fôn Williams (llun: CBDC)
Roedd Owain Fôn wedi llwyr haeddu ennill ei gap cyntaf dros Gymru ar ôl aros ei dro’n amyneddgar ers chwe blynedd, yn ôl is-reolwr y tîm cenedlaethol Osian Roberts.

Daeth y golwr o Benygroes ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Iseldiroedd nos Wener, a hynny ar ôl treulio 29 carfan yn eistedd ar y fainc i’r tîm ers cael yr alwad gyntaf yn 2009.

Er gwaethaf y ffaith iddo ildio gôl hwyr yn yr 20 munud a dreuliodd ar y cae cafodd ymddangosiad y golwr ei ddathlu’n swnllyd gan y cefnogwyr, ac ar ôl y gêm fe fynegodd ei ryddhad a’i falchder.

“Mae’n rhywbeth ‘da chi’n breuddwydio amdano pan ‘dach chi’n ifanc. Roedd chwarae heno’n fraint fawr, a dw i’n falch iawn o gynrychioli fy ngwlad,” meddai Owain Fôn.

Canmol cymeriad

Er bod y golwr sydd bellach yn chwarae i Inverness wedi gorfod aros ei dro cyn ennill ei gap cyntaf mae wedi bod yn aelod cyson o’r garfan ers blynyddoedd.

Ac fe fynnodd Osian Roberts fod yr amser wedi dod i gydnabod ei gyfraniad i’r tîm.

“Roedd o’n llwyr haeddu hynny oherwydd y gwaith caled mae o ‘di rhoi i mewn,” meddai’r is-reolwr.

“Dydi perfformiadau a chanlyniadau’r gorffennol ddim yn digwydd heb fechgyn fel Owain Fôn yn gweithio’n galed yn yr ymarferion o gwmpas y camp, boed hynny ar y cae neu oddi ar y cae.

“Dyna’r math o gymeriad ydi o, a dyna’r math o gymeriadau ‘da ni angen. Dyna pam mae ysbryd y garfan mor uchel ac mor dda, am fod gennym ni fechgyn fel Owain Fôn sydd yn sicrhau bod gennym ni gamp iach, bod pawb yn parchu’i gilydd, a dw i’n hynod falch bod o wedi cael y cyfle mae o’n haeddu.”

‘Aelod poblogaidd’

Mae’r ysbryd o fewn carfan Cymru wedi cael ei ganmol sawl gwaith yn ystod eu hymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Ewro 2016.

Ac fel yr un sydd yn aml yn diddanu’r tîm gyda’i ddoniau ar y gitâr pan fydd y chwaraewyr yn dod at ei gilydd ar gyfer y gemau rhyngwladol, roedd gweddill y garfan yn falch o weld Owain Fôn yn serennu ar y cae hefyd.

“Roedden ni i gyd mor falch drosto, fe wnaethon ni gyd fynd i’w longyfarch ar ôl y gêm,” meddai’r capten Ashley Williams.

“Mae’n foi grêt, aelod poblogaidd yn y ‘stafell newid, wastad yn troi fyny, byth yn cwyno, ac yn aelod pwysig o’r tîm.”

Troi sylw at Ffrainc

Y nod nesaf i Owain Fôn Williams, a gweddill y garfan, fydd sicrhau eu bod nhw ar yr awyren honno i Ffrainc ac yn barod pan fyddan nhw’n wynebu timau heriol o’r un safon â’r Iseldiroedd yn y twrnament.

“Ar y cyfan fe wnaethon ni’n dda yn erbyn tîm da iawn,” meddai Owain Fôn wrth drafod gêm nos Wener.

“Mae ganddyn nhw chwaraewyr da ac fe ddangoson nhw hynny. Fe wnawn ni symud ‘mlaen rŵan a pharatoi at Ffrainc.

“Allai ddim aros. Fel Cymro balch dw i jyst wrth fy modd bod fy ngwlad yn mynd i fod yn Ffrainc. Dydi o heb ddigwydd ers amser maith iawn, a dw i’n meddwl bydd y wlad gyfan allan yn Ffrainc!”