Gareth Bale yn ffit ar gyfer y ddwy gêm (llun: CBDC)
Mae Gareth Bale wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Bosnia-Herzegovina ac Andorra yng ngemau olaf ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 ar ôl gwella o anaf i groth y goes.

Mae Joe Allen, David Vaughan, Emyr Huws a Jonathan Williams yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r gemau diwethaf yn erbyn Cyprus ac Israel, ond does dim lle i Jordan Williams a Shaun MacDonald.

Does dim newid i’r garfan ymysg y golwyr, amddiffynnwyr ac ymosodwyr wrth i reolwr Cymru Chris Coleman gadw gyda’r rhan fwyaf o’r garfan sydd arwain Cymru i drothwy Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesa’.

Mae 25 o chwaraewyr wedi cael eu henwi yn y garfan ddiweddaraf, ond dim ond lle i 23 fydd yn y garfan derfynol ar gyfer y ddwy gêm.

Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gymru i ffwrdd o gartref yn erbyn Bosnia ar 10 Hydref, neu gartref yn erbyn Andorra ar 13 Hydref, er mwyn sicrhau eu lle yn yr Ewros.

Heddiw fe gododd Cymru i’r wythfed safle yn rhestr detholion y byd FIFA, eu safle uchaf erioed.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl, ar fenthyg yn Aberdeen), Owain Fôn Williams (Inverness)

Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Bromwich Albion), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers), Ashley Richards (Fulham)

Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), Jonathan Williams (Crystal Palace, ar fenthyg yn Nottingham Forest), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Joe Allen (Lerpwl), David Vaughan (Nottingham Forest), Emyr Huws (Wigan, ar fenthyg yn Huddersfield)

Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Simon Church (MK Dons), David Cotterill (Birmingham City), Tom Lawrence (Caerlŷr, ar fenthyg yn Blackburn Rovers)