Chris Coleman wedi arwain Cymru i'w safle ucha erioed (Llun: Y Gymdeithas Bel-droed)
Mae Cymru wedi codi i’w safle ucha’ erioed – unwaith eto – yn rhestr detholion FIFA yn dilyn y fuddugoliaeth dros Cyprus a’u gêm gyfartal yn erbyn Israel ym mis Medi.

Roedd tîm Chris Coleman eisoes yn y nawfed safle cyn y gêmau hynny, ac maen nhw nawr wedi codi i wythfed gan godi’n uwch na Chile.

Maen nhw hefyd yn aros yn uwch na Lloegr, sydd yn ddegfed, tra bod Gogledd Iwerddon wedi codi chwech safle i 35, yr Alban wedi disgyn naw lle i 40, a Gweriniaeth Iwerddon dri safle yn is ar 54.

Fe fydd Chris Coleman yn enwi’i garfan heddiw ar gyfer dwy gêm olaf Cymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar 10 Hydref ac Andorra ar 13 Hydref.

Codi i bedwerydd?

Fe allai Cymru godi i’r pedwerydd safle yn y byd fis nesaf petaen nhw’n ennill y ddwy gêm hynny a chanlyniadau eraill yn mynd o’u plaid.

Fodd bynnag, dim ond pwynt sydd ei angen arnyn nhw o’r ddwy gêm honno i sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesa’.

Mae’r crysau cochion yn parhau i fod ar frig y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, o flaen Gwlad Belg sydd yn ail, gyda’r ddau dîm uchaf yn y grŵp yn saff o’u lle yn yr Ewros a’r trydydd yn wynebu gemau ail gyfle.

Dyw Cymru heb golli’r un o’u wyth gêm yn y grŵp hyd yn hyn a heb ildio gôl ers pum gêm, gyda Gareth Bale yn arwain y ffordd â chwech gôl.

O gyfuno rhestrau rygbi a phêl-droed, Cymru yw’r gorau yn y byd.