Bydd rhwyfwr 37 oed sydd â’i gwreiddiau yn Aberdaugleddau yn mynd am fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Rio ddydd Sul.

Mae Rachel Morris yn cystadlu yn y rhodlau sengl, a daeth hi i’r brig yn y rhagbrofion ddydd Gwener i fynd â hi’n syth i’r rownd derfynol.

Dyma’i thrydedd Gemau Paralympaidd, ond y tro cyntaf iddi gystadlu mewn cwch – seiclwr oedd hi yn Beijing (2008) a Llundain (2012).

Enillodd hi’r fedal aur yn erbyn y cloc yn Beijing, a’r fedal efydd yn y ras ffordd yn Llundain.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach, aeth hi o feiciau i gychod.

Ar ôl y rhagbrofion ddydd Gwener, dywedodd Morris, sydd bellach yn byw yn Swydd Surrey: “Roedd hi’n dda cael y ras gyntaf honno allan o’r ffordd a nawr gall [dydd Sadwrn] fod yn baratoad ar gyfer y ffeinal yn hytrach na rasio mewn repechage.”

Mae gan bara-athletwyr o Gymru un fedal efydd eisoes, yn dilyn llwyddiant Sabrina Fortune.

Pigion dydd Sul

Rhys Jones – yn dilyn ei PB wrth gymhwyso ddydd Sadwrn, mae Rhys o Gwm Clydach yn cystadlu yn rownd derfynol y 100m T37.

Kyron Duke – roedd Kyron o Gasnewydd yn bumed yn rownd derfynol y siot F41 ar ddiwrnod agoriadol y Gemau. Y gwaywffon sydd nesaf iddo heddiw – roedd yn wythfed yn y gystadleuaeth hon yn Llundain yn 2012.

Jordan Howe – Y ras 200m T35 sydd nesaf i Jordan o Gaerdydd, a hynny’n dilyn y siom o gael ei ddiarddel o’r ras 100m nos Wener.

Olivia Breen – O’r trac i’r maes fydd hi i’r athletwraig sydd â’i gwreiddiau yn Abertawe. Mae hi eisoes wedi cystadlu yn y 100m T38, ond y tro hwn, bydd hi’n cystadlu yn y naid hir.

Tenis bwrdd – Sara Head o Feddau (Rownd wyth olaf dosbarth 3 i ferched), Rob Davies o Aberhonddu (Rownd gyn-derfynol dosbarth 1 i ddynion).

David Phillips – Saethyddiaeth (tîm atroi cymysg) yw camp David Phillips o Gwmbrân.

James Ball – rasio 1km yn erbyn y cloc yn y treialon amser fydd Ball o Gasnewydd yn y rownd derfynol.

Pêl-fasged mewn cadair olwyn – bydd Clare Griffiths sydd â’i gwreiddiau yng Nghasnewydd yn gobeithio cael lle yn nhîm merched Prydain yn erbyn Brasil, tra bod Phil Pratt o Gaerdydd yn gobeithio ennill ei le yn nhîm y dynion yn erbyn yr Almaen.

Gallwch ddilyn y cyfan yn fyw ar Channel 4 o 1 o’r gloch.