Roedd ei berfformiad gorau erioed yn ddigon i sicrhau lle yn rownd derfynol y ras 100m yn nosbarth T37 i Rhys Jones o Gwm Rhondda.

Roedd yn bedwerydd ei ragbrawf, gan orffen mewn 11.77 eiliad.

Mae’n cael ei hyfforddi gan y gwibiwr rhyngwladol Christian Malcolm ers y llynedd.

Yn ystod ei ras, fe sicrhaodd Charl du Toit o Dde Affrica record byd, gan orffen mewn 11.42 eiliad.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal am 3.51pm brynhawn dydd Sul.