Amber Davies ar y rhaglen Love Island
Dridiau ers i’r Gymraes ugain oed o Ddinbych a’i chariad gael eu coroni’n enillwyr y gyfres deledu boblogaidd ar ITV2, Love Island, mae mam Amber Davies wedi bod yn siarad â golwg360 am yr hyn sy’n wynebu ei merch yn sgil ei henwogrwydd newydd.

Yn ôl Sue Davies, mae’r cynigion am waith hyrwyddo a modelu yn tyrru i mewn… ond breuddwyd Amber yn y pendraw yw parhau â gyrfa ym myd actio, canu a dawnsio.

“Byddai Amber wrth ei bodd yn mynd ymlaen a chael gyrfa actio neu mewn sioeau cerdd,” meddai.

“Mae pobol wedi gofyn iddi wneud gwaith hyrwyddo, mae llawer wedi gofyn iddi wneud gwaith modelu i siopau dillad, a dw i’n credu y bydd hi’n canolbwyntio ar waith hyrwyddo dros yr ychydig o fisoedd nesaf.”

Penderfynu rhwng Love Island a Hairspray

Aeth Amber Davies, a fu’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau’r Urdd, y Genedlaethol a’r Ŵyl Cerdd Dant, i Lundain yn 16 oed, ar ôl cael ysgoloriaeth i astudio gyda’r ysgol actio a dawns, yr Urdang Academy.

Yn ôl ei mam, fe raddiodd ym mis Mehefin y llynedd, a chael cynnig swydd yn teithio gyda’r sioe gerdd, Hairspray – ond wythnos yn ddiweddarach, daeth cynnig gan gynhyrchwyr y gyfres Love Island.

“Mi dreuliodd hi bythefnos yn trio dod i benderfyniad rhwng y ddau,” meddai Sue Davies. “Mi benderfynodd hi ei bod hi am wneud Hairspray, ond roedd y cynhyrchwyr yn dweud wrthi y byddai hi’n berffaith ar gyfer Love Island, gan ofyn iddi hi ail-ystyried. Mi ddaethon nhw i siarad efo fi a’i thad hi hefyd.

“Felly, mi feddyliodd hi’n galed am y dewis, cyn penderfynu mynd am Love Island – ac yn sicr, mi wnaeth hi’r penderfyniad cywir, mi enillodd hi, ac mae hi wrth ei bodd ar deledu realaeth hefyd – mae’n gwylio’r rhaglenni i gyd.”

Yr Urdd yn hwb

Yn ôl Sue Davies, mae perfformio ar lwyfannau’r eisteddfod a digwyddiadau eraill wedi bod yn sail i’w merch i fynd ymlaen at yrfa yn y byd hwnnw.

“Drwy fynd i ysgolion Cymraeg – Twm o’r Nant a Glan Clwyd – mae’n sicr wedi helpu i gryfhau ei gyrfa,” meddai.

“Roedd hi’n rhan o [grŵp canu] Enfys ac yn ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd a’r Ŵyl Cerdd Dant.

“Pan adawodd hi i fynd i Lundain, o’n i’n gweld eisiau hwnna i gyd achos oedd o wedi bod yn rhan mor fawr o’n bywydau. Mae’n rhoi sail dda iddyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd.”

Angen iddi “ddewis yn ddoeth”

Cyn-athrawes iddi yn yr ysgol gynradd ac un a fu’n ei dysgu i ganu am flynyddoedd oedd yr hyfforddwraig Cerdd Dant, Leah Owen, a hi hefyd oedd arweinydd y grwp Enfys. Mae’n dweud fod Amber yn ferch “annwyl, cwrtais a swil” i’w dysgu.

“Mae’n siŵr bydd yna fwy o her o’i blaen hi rŵan, mae’r gyfres wedi dod i ben, mae wedi ennill ac mae pawb yn hapus iawn drosti,” meddai.

“Ond bydd rhaid iddi sylweddoli rŵan y bydd yna sylw parhau mwy na thebyg gan y wasg, y paparazzi, y bobol yma yn chwilio am unrhyw gam gwag y gwneith hi. Bydd rhaid iddi gadw ei thraed ar y ddaear.

“Mae’n siŵr y bydd yna gyfnodau anodd o’i blaen hi ond eto, mae wedi agor drysau iddi hefyd achos dw i’n gwybod bod ganddi ddiddordeb mewn canu, mewn perfformio, mewn dawnsio.

“Mi fydd hi’n ddiddorol pa gynigion ddaw, a gan obeithio y gwneith hi ddewis yn ddoeth rŵan a defnyddio ei gwir dalent go iawn yn y dyfodol.”