Amber Davies
Cymraes Gymraeg o Ddinbych a’i phartner sydd wedi’u coroni’n enillwyr y gyfres deledu realaeth, Love Island.

Ond wrth i Amber Davies o Ddinbych a Kem Cetinay gael eu cyhoeddi’n enillwyr y gyfres, roedd trigolion ei thref enedigol yn ei chofio hi’n canu ac yn dawnsio ar lwyfannau eisteddfodau’r Urdd.

Trwy ennill y gyfres neithiwr – a dod o hyd i gariad – mae hi wedi pocedu gwobr ariannol o £50,000.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu’n dysgu rhai geiriau Cymraeg i’w phartner ar y teledu, a chafodd yntau gyfle i ddefnyddio’r iaith wrth gwrdd â rhieni ei gariad yn rhaglen nos Sul.

Yn sgil hyn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi canmol y defnydd o’r Gymraeg yn y gyfres yn gyffredinol.

Magwraeth eisteddfodol

Ond er bod y gyfres ar ITV wedi dod ag enwogrwydd i Amber Davies ledled gwledydd Prydain, bu’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Glan Clwyd yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru ers blynyddoedd, a hynny ar lwyfan eisteddfodau’r Urdd fel aelod o bartïon a chorau.

Cyn-athrawes iddi yn yr ysgol gynradd ac un a fu’n ei dysgu i ganu am flynyddoedd oedd yr hyfforddwraig Cerdd Dant, Leah Owen, a hi hefyd oedd arweinydd y grŵp canu, Enfys, yr bu’r cantores ifanc yn aelod ohono.