Castell Aberteifi (Llun: Louise Noakes)
Mae Castell Aberteifi wedi cyrraedd rhestr fer o’r adeiladau gorau i gael eu hadnewyddu ledled gwledydd Prydain.

Mi fydd yn serennu ar gyfres newydd ar Channel 4 sy’n dechrau nos Iau, sef Great British Buildings: ROTY.

Mae’r gyfres yn canolbwyntio ar rai o’r enghreifftiau gorau o waith adfer ar adeiladau ar draws Prydain gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y gyfres.

Canolfan treftadaeth

Fe agorodd y castell, sy’n enwog am gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn 1176, ddwy flynedd yn ôl yn 2015 – a hynny ar ôl gwaith adnewyddu a barodd pedair blynedd ar gost o £12 miliwn.

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan – sydd â dros 250 o aelodau – fu’n arwain yr ymgyrch i achub y safle.

Erbyn hyn mae’r castell fu’n gartref i’r Arglwydd Rhys yn ganolfan treftadaeth fodern gyda llety moethus a bwyty ar lan yr afon gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yno.

Y gyfres

Mae’r gyfres newydd ar Channel 4 yn cael ei chyflwyno gan Kevin McCloud o Grand Designs gyda sylwebaeth gan yr haneswyr Dr Anna Keay, Marianne Suhr a Jonathan Foyle.

“Gyda’i gilydd mae’r adeiladau sy’n ffurfio rhestr fer Adnewyddiad y Flwyddyn yn adrodd stori ddiddorol am orffennol y Deyrnas Unedig ar ei fwyaf uchelgeisiol, diddorol, creadigol ac yn dangos y gwaith caled,” meddai Alex Menzies, Dirprwy Bennaeth Nodweddion Channel 4.

Mae’r gyfres yn dechrau nos Iau (Mawrth 23) am 8yh.