Castell Aberteifi Llun: Louise Noakes
Fe fydd aelodau o’r gymuned yn cael yr olwg gyntaf ar Gastell Aberteifi ar ei newydd wedd heddiw, wedi pedair blynedd o waith adnewyddu ar gost o £12 miliwn.

Mae’r castell, sy’n enwog am gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, yn ailagor fel atyniad treftadaeth modern gyda llety moethus a bwyty ar lan yr afon, a rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi ei drefnu dros yr haf.

Bydd y castell yn agor i’r cyhoedd ddydd Mercher.

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan – sydd a dros 250 o aelodau – fu’n arwain yr ymgyrch i achub y safle.

Ond yn yr wythnosau diwethaf, mae ffrae wedi cychwyn dros yr arlwy ar gyfer y cyngerdd agoriadol, gydag ymgyrchwyr iaith lleol eisiau gweld band Cymraeg yn cael y prif lwyfan ar y noson yn hytrach na’r band o Loegr, Bellowhead.

Ymwelwyr

Dywedodd llefarydd ar ran y Castell, Sue Lewis: “Mae elfennau masnachol y Castell yn hollol hanfodol er mwyn cynhyrchu incwm i gynnal a chadw’r safle ac i barhau i wella’r profiad i ymwelwyr.

“Ein targed yw denu dros 30,000 o ymwelwyr i’r Castell yn y flwyddyn fasnachu gyntaf a bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau yn bwysig iawn er mwyn ein helpu i gyflawni hyn.”

Ychwanegodd Julian Beynon-Lewis, Is-Gadeirydd Masnachwyr Aberteifi: “Os bydd busnesau’n gallu dysgu sut i fanteisio ar y cynnydd hwn ac ar y math o ymwelwyr a ddaw, yna gallai agor y Castell gael effaith wirioneddol ar economi Aberteifi.”