Tony Jones (chwith) yn stiwdio MônFM (Llun o gyfrif Twitter yr orsaf)
Mae gwirfoddolwyr gorsaf radio MônFM wedi ymateb i sylwadau gan gyn-gadeirydd sy’n poeni am ddyfodol y fenter.

Ddoe, roedd y troellwr disgiau ac un o sylfaenwyr yr orsaf, Vaughan Evans, wedi sôn wrth golwg360 fel y mae’n poeni am y ffordd y mae MônFM yn cael ei rhedeg ac yn casglu ei hysbysebion, flwyddyn wedi iddo ef ymddiswyddo o fod yn gadeirydd arni.

Heddiw, dan arweiniad y cadeirydd presennol, Tony Jones, mae gwirfoddolwyr y fenter, mewn datganiad, yn dweud eu bod nhw’n “drist ac yn siomedig” o ddarllen y sylwadau.

“O safbwynt y tîm rheoli, hoffwn gadarnhau ein bod yn falch iawn o’r ymroddiad a’r safonau darlledu gan bob un o’n cyflwynwyr – maent yn parhau i gyflawni gwaith rhagorol!” meddai datganiad wedi’i arwyddo gan ‘Gwirfoddolwyr MônFM’.

“Mae’r nifer a’r dewis o raglenni wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, a diolchwn i’n wrandawyr ffyddlon am eu cefnogaeth hael. Mae’n gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn ymroddgar ac egnïol – yn rhoi eu hamser ar gyfer darparu gwasanaeth radio bro o’r siort orau o 7yb tan 10yh.

“Braf yw gweld fod rhai o’n gwirfoddolwyr ifanc wedi llwyddo i fynd ymlaen i goleg ar ôl cael profiad gwirfoddoli hefo’r orsaf, ond yn dychwelyd i wirfoddoli yn wyliau’r haf,” meddai’r datganiad wedyn. “Mae’r orsaf hefyd yn falch o weld fod rhai cyflwynwyr wedi cael dyrchafiad a gwaith gan Radio Cymru a Capital.”

Hysbysebion a Horizon 

Mewn ymateb i bryderon Vaughan Evans ynglyn â sut y mae’r orsaf yn defnyddio ei thrwydded i godi hyd at £15,000 o arian hysbysebu bob blwyddyn – a faint o sylw y mae cwmni niwclear Horizon yn ei gael ar y tonfeddi.

“Mae MônFM yn parhau i weithio’n galed mwyn ennill arian i dalu biliau ar gyfer cyflwyno gwasanaeth radio cymunedol,” meddai’r Gwirfoddolwyr. “Mae tua 90% o’r hysbysebion hynny yn rhad ac am ddim, os er lles y gymuned neu tuag at elusennau, er enghraifft ar gyfer codi arian i’r Eisteddfod a mudiadau lleol.

“Dim ond hanner costau rhedeg yr orsaf (£15,000) a ellir ei godi drwy hysbysebion masnachol, ond dydi hynny ddim wedi ein rhwystro rhag gweithio hefo cwmnïau lleol a chenedlaethol – rydym yn brysur yn paratoi mwy o hysbysebion i gwmnïau lleol erbyn yr Hydref, ac mae sawl cwmni lleol wrthi’n ein helpu hefo carped newydd, blinds a larwm diogelwch.

“O safbwynt ein cysylltiad gyda Horizon,” meddai’r Gwirfoddolwyr wedyn, “mae’n holl bwysig nodi nad oes gan MônFM duedd o blaid nag yn erbyn datblygiad Wylfa Newydd. Mae’r orsaf wedi bod yn llwyddiannus mewn cyflawni gwaith hyrwyddo ymgynghoriad cyhoeddus drwy gwmni hollol annibynnol yn Llundain.

“Pwrpas y gwaith oedd sicrhau fod pobol leol yn cael ‘dweud eu dweud’ un ffordd neu’r llall am un o’r prosiectau mwyaf yng Nghymru.”

Anghytundeb

Fe adawodd Vaughan Evans MônFM oherwydd fod yna anghytundeb rhyngddo a’r pwyllgor. 

“Mae’n hollol gywir fod yna anghytundeb wedi bod rhwng yr Orsaf a’r cyn-gadeirydd ar fater pwysig ac egwyddorol,” meddai Tony Jones a’r Gwirfoddolwyr.

“Doedd y Pwyllgor Rheoli na’r gwirfoddolwyr yn teimlo fod modd talu i rai cyflwynwyr ‘da’ a rhoi dim i’r gweddill. Safbwynt MônFM ydi fod mewnbwn pawb mor bwysig â’i gilydd. Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi’r peth fwyaf gwerthfawr yn eu bywyd – sef eu hamser!

“Mae’r orsaf yn benderfynol o ddatblygu a gwella dros y degawd nesa, ac yn edrych mlaen yn frwdfrydig i weithio gyda chwmnïau lleol a chymunedau’r ardal, a hefyd datblygu prosiect ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar lafar.”