Mae angen “lleisiau newydd” ar orsaf radio Môn FM, yn ôl un o’i sylfaenwyr sydd wedi rhoi’r gorau i fod yn gadeirydd arni.

Roedd Vaughan Evans – DJ â 40 blynedd o brofiad – yn gyfrifol am gyflwyno rhai o slotiau mwyaf poblogaidd yr orsaf sy’n darlledu o dref Llangefni ers Gorffennaf 2014… ond mae bellach wedi gadael, ac yn pryderu am y dyfodol.

Mae’r gwr o bentref Bryngwran yn parhau i wrando ar yr orsaf “o bryd i’w gilydd”, ond yn pryderu “nad oes newidiadau wedi bod ers tipyn” – ac y gallai bod cwmni niwclear yn cael mwy o amser hysbysebu ar y tonfeddi na chwmnïau lleol.

Mae yna siarad hefyd yn lleol bod cwmni Horizon, sydd am godi atomfa niwclear newydd ar safle’r Wylfa ym Môn, yn cael lot o sylw – yn cynnwys rhaglen gyfan yn ddiweddar lle’r oedd un o’r penaethiaid yn dewis ei hoff ganeuon.

“Dw i’n gwybod bod hi’n anodd, a dw i’n tynnu’n het i’r bobol sydd wedi camu ymlaen efo’r orsaf ar ôl i mi fynd o’na,” meddai Vaughan Evans wrth golwg360. “Dw i ddim yn gobeithio unrhyw beth drwg iddyn nhw o gwbwl. Ond i barhau i gael gwrandawyr… mae angen cael pobol brofiadol i mewn, yn fy meddwl i.

“Mi fasa’r orsaf yn medru bod yn well. Does dim llawer o newidiadau wedi bod ers tipyn. A dw i’n meddwl bod hi’n amser cael lleisiau newydd… ac mae’r modd o godi’r arian er mwyn gwneud hynny, yna’n barod. Dydi o ddim yn costio llawer i gael rhywun profiadol i mewn.”

Hysbysebion Horizon

Un o lwyddiannau’r orsaf, yn ôl Vaughan Evans, oedd derbyn caniatâd gan Ofcom i godi gwerth £15,000 y flwyddyn trwy hysbysebion. Ond mae’r cyn-droellwr disgiau yn cwestiynu os ydi’r orsaf bellach yn defnyddio’r “fraint” er lles cymunedau Ynys Môn.

“Mae’r modd yna i fynd allan at fusnesau lleol i hysbysebu’r rheiny,” meddai. “Mae ganddon ni lefydd gwneud gwallt ac ewinedd merched, garejys a busnesau adeiladwyr… Dw i ddim yn clywed unrhyw un o’r rhain yn cael eu hysbysebu o gwbwl.

“Pan fydda’i yn gwrando ar Môn FM, yr oll dw i’n glywed ydi hysbysebu gan Horizon,” meddai Vaughan Evans. “Dw i ddim yn clywed unrhyw un arall yn hysbysebu, i ddweud y gwir. Ai nhw yn unig sy’n cadw’r orsaf i fynd? Does gen i ddim syniad… ella eu bod nhw yn talu dipyn.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Môn FM i ofyn am ymateb i’r honiadau am hysbysebion Horizon.

“Anghytuno”

Yn ôl Vaughan Evans, fe wnaeth ei orau tra’n gadeirydd Môn FM i gyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen ar yr orsaf gymunedol – ond fe adawodd yn y diwedd oherwydd yr anghytuno dros y cynlluniau.

“Y rheswm es i oedd oherwydd fy  mod i eisiau dod â phobol brofiadol i mewn a chodi arian er mwyn talu amdanyn nhw,” meddai. “A hefyd, o’n i’n ceisio cadw’r hogia oedd gynnon ni. Hogia reit dda, i ddweud y gwir – fel y Welsh Whisperer a’r rheina. Mi adawodd y Welsh Whisperer ychydig wedi i mi fynd…

“Oedd gen i gynlluniau a syniadau ynglŷn â ffordd ymlaen,” meddai Vaughan Evans. “Oeddwn i eisiau dod â mwy o bobol fwy profiadol i mewn a thalu ambell un, er mwyn cael gwell safon. Ond, doedd y pwyllgor ddim yn cyd-fynd efo fi, a dyna pam es i.”

Beth a phwy ydi Môn FM?

“Eich Ynys, Eich Llais” ydi arwyddair yr orsaf radio sy’n darlledu ar donfedd 102.5FM ac ar-lein.

Mae’n cynnig amserlen ddwyieithog o raglenni, saith diwrnod yr wythnos. Bob dydd Mawrth, er enghraifft, mae’n dechrau gyda rhaglen frecwast Gwyn Owen rhwng 7yb ac 11yb; Llinos Marsh rhwng 11yb a 5yp; Gavin Roberts yn cyflwyno ‘Drivetime’ rhwng 5yp a 7yh; awr o ganu gwlad yng nghwmni Ray Owen rhwng 7yh ac 8yh; dwyawr gyda DJ Fflyffilyfbybl rhwng 8yh a 10yh; a rhaglen gerddorol ‘Gyda’r Nos’ rhwng 10yh a hanner nos.

Ymhlith cyflwynwyr eraill Môn FM y mae Sarah Wynn, Dai Sinclair, Rees Talfryn a Tony Jones; Mike Hooton, Cris Robaij, Velvet Daves a Dic Thomas.

Mae’r brif swyddfa a’r stiwdio yn Ffordd yr Efail yng nghanol tref Llangefni.