Rhys Ifans, un o sêr y ffilm Twin Town
Fe fydd dangosiad arbennig o’r ffilm Twin Town yn cael ei gynnal ym Mharc Singleton yn Abertawe fis nesaf fel rhan o ddathliadau’r ffilm yn 20 oed.

Roedd disgwyl i’r ffilm gael ei dangos ar draeth yn yr ardal ar Awst 3, ond fe gafodd ei symud oherwydd bod cryn ddiddordeb yn y digwyddiad.

Fe allai hyd at 8,000 o bobol fynd i weld y ffilm gan y cyfarwyddwr lleol, Kevin Allen – er bod y digwyddiad gwreiddiol yn hysbysebu bod lle i 500 yn unig.

Mae Kevin Allen yn aelod o’r tîm sy’n ceisio ennill statws Dinas Diwylliant i Abertawe yn 2021.

Fe fydd manylion y tocynnau’n cael eu cyhoeddi ddydd Llun.

Y digwyddiad

Mae lle i gredu y bydd sesiwn holi ac ateb gyda Kevin Allen ac ambell aelod o’r cast yn y digwyddiad. Mae’r ffilm yn serennu’r brodyr Rhys a Llŷr Ifans.

Mae ail ffilm Twin Town ar y gweill.