Abertawe yw’r unig ddinas o Gymru sydd ar ôl yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant Prydain yn 2021, ar ôl i Dŷddewi fethu â chyrraedd y rhestr fer.

Fe fydd Abertawe yn wynebu cystadleuaeth rhyngddi a phedair dinas arall – Coventry, Paisley, Stoke-on-Trent a Sunderland – i gipio’r teitl sy’n cael ei ddal ar hyn o bryd gan Hull.

Fe fydd yr enillydd, a fydd yn derbyn £3 miliwn o grant y Loteri Treftadaeth, yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer neithiwr, dywedodd y Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth yn llywodraeth San Steffan, John Glenn:

“Rydym wedi derbyn ceisiadau cryf o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae gennym bellach restr fer wych o bump sy’n adlewyrchu amrywiaeth ac uchelgais diwylliannol ein trefi a’n dinasoedd.”

Fe fydd y newydd yn siom i Dŷddewi, a oedd ymhlith yr 11 o drefi a dinasoedd i gyrraedd y rownd gyntaf, er gwaetha’r ffaith mai hi yw dinas leiaf Prydain.