Mae degau ar filoedd o bobol o Gatalwnia yn gorymdeithio ym Mrwsel i alw am help gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth ar Hydref 1.

Yn ôl heddlu Brwsel, mae tua 45,000 yn y rali, sy’n digwydd pythefnos cyn yr etholiadau rhanbarthol yng Nghatalwnia.

Maen nhw wedi gorymdeithio o gwmpas prif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd gyda baneri Catalwnia ac arwyddion â’r geiriau “Gwarth Arnoch” dros faner Ewrop.

Mae un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Cymru, Jill Evans, wedi siarad yn y digwyddiad a dywedodd bod “llawer o bobol yng Nghymru” yn cefnogi’r Catalaniaid.

“Rydym ni’n sefyll gyda chi,” meddai, gan gyfeirio at y ddadl bu yn y Cynulliad ddoe [dydd Mercher] ar hawl Catalwnia i benderfynu eu tynged eu hunain.

Daeth cyn arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont a phedwar cyn-weinidog ei gabinet i Frwsel yn dilyn y refferendwm rhag iddyn nhw gael eu harestio yn Barcelona.

Mae llawer o Gatalaniaid yn teimlo’n siomedig gan ddiffyg ymdrechion Ewrop i geisio dechrau trafodaethau rhwng Llywodraeth Sbaen a Chatalwnia.