Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dod dan y lach am beidio â chefnogi pleidlais ar hunan-benderfyniad Catalwnia – a hynny wythnosau ar ôl iddo alw am y ddadl ar lawr y Cynulliad.

Ac yntau bellach yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn y Llywodraeth Lafur, glynodd y cyn-Lywydd at benderfyniad aelodau eraill y Cabinet ac ymatal ar gynnig Plaid Cymru ddoe (dydd Mercher).

Roedd y ddadl yn nodi bod y Cynulliad “yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a’i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa”, yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth ar Hydref 1.

Roedd hefyd yn nodi bod y Cynulliad “yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion”.

Cafodd y bleidlais ei phasio ar ôl i aelodau meinciau cefn Llafur bleidleisio o blaid, ond fe wnaeth y Cabinet ymatal.

Gwrthdaro rhwng Llywydd a chyn-Lywydd

Mewn cyfweliad bythefnos yn ôl, dywedodd, wrth bwysleisio ei fod yn mynegi barn bersonol, y “bydda fo’n briodol i Lywydd y Cynulliad drefnu dadl ar Gatalwnia ar lawr y Tŷ, i aelodau gael mynegi eu barn fel aelodau unigol.”

Fe wnaeth e hefyd alw ar Elin Jones i arwain ymdrech ddiplomyddol yn Ewrop o blaid Catalwnia.

Arweiniodd hynny at ymateb cryf gan y Llywydd, oedd yn dweud y dylai Dafydd Elis-Thomas ddefnyddio ei safle ei hun i ddylanwadu ar y Llywodraeth.

Ond yn ôl Dafydd Elis-Thomas, does ganddo “dim grym [ar faterion rhyngwladol] o fewn y Llywodraeth a “does gan Lywodraeth Cymru ddim cyfrifoldeb ar faterion rhyngwladol”.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Dafydd Elis-Thomas, ond heb gael ymateb pellach.