Mae’n bosib y bydd “mwy o wleidyddion” yn wynebu “mwy o honiadau” yn eu herbyn dros yr wythnosau nesaf, yn ôl cyn-ddarlithydd newyddiaduraeth.

Daw’r sylw wedi iddi ddod i’r amlwg bod yr Aelod Cynulliad Llafur, Carl Sargeant, wedi’i wahardd o’r blaid yn sgil honiadau yn ei erbyn.

Carl Sargeant wedi’i wahardd o’r Blaid Lafur

Mae Siân Powell, sy’n rhedeg cwmni ymchwil a chyfathrebu Hedyn ac yn gyn-ddarlithydd newyddiaduraeth, yn nodi nad yw’r Bae yn rhy wahanol i San Steffan, gan ychwanegu y dylem ddisgwyl i aelodau pleidiau o bob lliw ddod dan y lach dros yr wythnosau nesaf.

“Dw i’n dychmygu bydd yna fwy o honiadau yn erbyn mwy o wleidyddion ar draws y sbectrwm dros yr wythnosau nesaf hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Rydan ni ar fin cychwyn y stori ar y funud. Dydyn ni ddim yn gwybod lle mae’r stori yn mynd i fynd a sut fydd yr hyn yn datblygu dros yr wythnosau nesaf.”

Bellach mae cabinet newydd Llywodraeth Cymru wedi’i chyhoeddi, ac ni fydd Carl Sargeant yn dychwelyd i’w rôl… Felly beth ddaw o’r Aelod Cynulliad?

“Mae’n anodd dweud ar y funud. Mae o wedi dod allan yn dweud ei fod yn gobeithio clirio ei enw. Mae’n dibynnu beth fydd y broses fewnol.

“Ac ar hyn o bryd, dydy o ddim yn amlwg beth ydy’r honiadau yn ei erbyn. Yn wleidyddol, does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf.”