Mae Carl Sargeant wedi’i wahardd o’r Blaid Lafur, tra bod ymchwiliad i “honiadau” sydd wedi’u gwneud yn ei erbyn.

Mae hefyd wedi colli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru.

Fe ddaeth y cadarnhad mewn datganiad un frawddeg gan y blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol toc cyn 2 o’r gloch.

Dyma’r geiriad yn llawn:

“Mae Carl Sargeant wedi cael ei wahardd o fod yn aelod o’r blaid, a thrwy hynny o chwip Llafur yng Nghynyulliad Cenedlaethol Cymru, tra bod ymchwiliad yn digwydd i honiadau y mae’r blaid wedi’u derbyn.”

Carwyn yn galw am “ymchwiliad llawn”

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Yn dilyn honiadau a wnaed yn y dyddiau diwethaf ynghylch ymddygiad Carl Sargeant, mae’r Prif Weinidog wedi ei hepgor o’r Cabinet ac wedi gofyn i Lafur Cymru gynnal ymchwiliad llawn.”

“Edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Llywodraeth”

Ar ei gyfrif twitter mae Carl Sargeant wedi dweud nad yw “manylion yr honiadau wedi eu datgelu” iddo hyd yma.

“Rydw i wedi sgrifennu at Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru yn gofyn am ymchwiliad annibynnol brys i’r honiadau hyn er mwyn fy ngalluogi i glirio fy enw.

“Oherwydd natur yr honiadau, roeddwn yn cytuno gyda’r Prif Weinidog mai’r peth iawn oedd i mi gamu o’r cabinet heddiw. Rydw i yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Lywodraeth Cymru unwaith y byddaf wedi clirio fy enw.”