Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud cyhoeddiad am bobol fu’n cysgodi rhag y coronafeirws adeg y cyhoeddiad am lacio’r cyfyngiadau ddydd Gwener (Mai 29).

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw (dydd Sul, Mai 31) y bydd modd i bobol sydd wedi bod yn cysgodi adael eu cartrefi yfory ar sawl amod.

Fe ddaw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl cyhoeddi y byddai mesurau’n cael eu llacio o yfory (dydd Llun, Mehefin 1).

Ymateb

“Mae’n syndod na chafodd y cyhoeddiad hwn ynghylch cleifion sy’n cysgodi ei wneud ddydd Gwener,” meddai Darren Millar, llefarydd Adferiad Covid y Ceidwadwyr Cymreig.

“Gadewch i ni obeithio bod y llythyron yn dweud wrth bobol am y newid hwn yn mynd i’r cyfeiriadau cywir y tro hwn.

“Tra ei fod yn newyddion da i rai, mae’r penderfyniad yn halen ar y briw i gannoedd o filoedd o bobol lai bregus nad ydyn nhw o hyd yn gallu gweld eu teuluoedd oherwydd y rheol pum milltir greulon,” meddai am y rheol sy’n cyfyngu pobol i weld pobol o gartref arall ar yr amod nad ydyn nhw’n byw yn fwy na phum milltir i ffwrdd.