Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor newydd i bobol fu’n cysgodi rhag y coronafeirws.

Daeth cadarnhad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fel rhan o newidiadau fydd yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw barhau i lacio’r cyfyngiadau.

Fe fu’n rhaid i bobol â chyflwr iechyd blaenorol sy’n cynyddu eu risg o gael eu heintio aros dan do yn llwyr ers ymlediad y feirws.

Yn sgil y newidiadau, gall pobol sydd wedi bod yn cysgodi wneud ymarfer corff yn yr awyr agored a chyfarfod â phobol o dŷ arall yn yr awyr agored.

Does dim terfyn ar faint o ymarfer corff mae pobol fu’n cysgodi yn gallu ei wneud ar yr amod eu bod nhw’n cadw pellter cymdeithasol a chamau hylendid, ac mae modd cyfarfod â rhywun o dŷ arall ar yr amod fod hynny’n digwydd yn yr awyr agored ac nad yw bwyd yn cael ei rannu.

Ddylai pobol sy’n cysgodi ddim mynd allan i siopa na mynd i’r gwaith, a sicrhau bod bwyd a meddyginiaeth yn dod i’r tŷ.

Yn ôl Vaughan Gething, mae’n “eithriadol o falch” o’r gwasanaethau sy’n galluogi pobol i gysgodi, ac mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn dweud bod dilyn y canllawiau’n “bwysig dros ben” i bobol sy’n cysgodi.