Mae statws newydd Capel Coffa Capel Celyn yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae angen i’r adeilad fod yn agored yn “amlach”.

Dyna farn Elwyn Edwards, cynrychiolydd yr ardal ar Gyngor Gwynedd, a disgynnydd un o deuluoedd tref Capel Celyn.

Cafodd y capel coffa ei godi wedi i ddyffryn Tryweryn gael ei boddi er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl yn yr 1960au, ac ar Awst 1 eleni derbyniodd yr adeilad statws rhestredig Gradd II*.

Er nad yw’n teimlo bod y capel yn “gofeb deilwng” i’w cyndeidiau, mae’n croesawu’r statws newydd ac yn credu dylai bod y cyhoedd yn medru ymweld â’r adeilad yn fwy aml

“Dw i’n croesawu’r ffaith ei fod yn cael y statws yma rŵan,” meddai wrth golwg360. “Mae yna gymaint yn dod yna i weld y lle. Ond mae’n rhaid cael trefniant gyda’r [perchnogion] fel bod y goriad ar gael. [Mi allan nhw] rhoi copi i dri neu bedwar ohonon ni yn yr ardal.

“Mae ysgolion yn fy ffonio i o hyd, a dw i’n mynd efo nhw yno.”

“Baeddu” y capel coffa

Mae’n egluro nad yw’r capel ddim ond yn agored pan mae rhywun eisiau mynd yno, a bod yn rhaid i gwmnïau teledu rhoi chwe wythnos o rybudd os ydyn nhw am ffilmio yno.

Roedd arfer bod “yn agored trwy’r adeg”, meddai,  ond bu’n rhaid dod a’r drefn hynny i ben gan fod pobol yn “defnyddio’r lle fel tŷ bach”.

Er ei fod am i’r adeilad fod yn agored yn amlach, dyw e ddim am i’r lle fod yn “agored rownd y reel” gan ei fod yn poeni y bydd pobol yn “dechrau baeddu’r lle eto”.

Gwaith dŵr Cymru

Mae pryderon eisoes wedi cael eu codi am gyflwr y capel, ac mae Dŵr Cymru – sydd yn berchen ar yr adeilad – wedi ymrwymo i fynd i’r afael a hynny.

Mewn datganiad rhai misoedd yn ôl dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru, eu bod am “sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gynnal a’i wella fel ei fod yn parhau’n hygyrch i’r cyhoedd.”

Ac yn siarad â golwg360 mae Elwyn Edwards yn dweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad â’r corff a bod gwaith eisoes wedi cychwyn ar yr adeilad.

Mae’n dweud bod gweithwyr wrthi’n torri coed o’i gwmpas fel bod modd gweld y llyn yn gliriach, a bod cynlluniau yn yr arfaeth i roi gwres canolog yn y capel.

Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal gan Dŵr Cymru ar Fedi 11, meddai, ac mae’r sefydliad am fynd i’r afael â’r dŵr sy’n mynd i mewn i’r adeilad.