Mae cyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Capel Celyn yn dweud bod cyflwr y capel coffa ar lannau’r llyn heddiw yn “warthus”.

Cafodd y capel coffa ei adeiladu yn fuan ar ôl i’r argae yng Nghwm Tryweryn gael ei greu yn y 1960au, gan foddi pentre’ a chymuned Capel Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.

Dŵr Cymru sydd yng ngofal y llyn bellach, ac mae Eurgain Prysor Jones o’r Bala yn dweud bod angen i’r corff ofalu am y capel coffa yn well.

“Mae o’n ddibwrpas yn hollol fel y mae o,” meddai wrth golwg360. “Mae pawb sydd wedi ymweld â’r lle yn dweud ei fod yn warthus.”

“Mae’r lle yn ‘ych’

Yn ôl tystiolaeth Eurgain Prysor Jones, a adawodd Cwm Tryweryn pan oedd yn 9 oed, mae yna dyllau yn y to a choeden yn tyfu trwyddo yn y capel coffa heddiw; mae graffiti ar y welydd a gwe pry cop ar y ffenestri.

Mae hefyd yn dweud bod ymwelwyr â’r safle yn aml yn defnyddio’r adeilad fel tŷ bach, ac mai dyna’r rheswm pam mae’r capel coffa wedi cael ei gloi erbyn hyn.

“Dw i’n methu â dallt pam nad oes yna drydan o ryw fath i fewn ynddo fo,” meddai. “Mae’n dywyll, dywyll, dywyll.

“Pan mae plant yn dod yno i ofyn i rywun siarad iddyn nhw, mae’r lle yn ych.”

‘Dim cyfrifoldeb y Cyngor Plwyf’

Mae’n dweud ymhellach bod rhai wedi awgrymu y dylai’r adeilad gael ei drosglwyddo i ofal y cyngor plwyf lleol, ond mae Eurgain Prysor Jones yn bendant yn erbyn hynny.

Cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw’r capel coffa, meddai, a hynny am ei fod ynghlwm wrth y llyn.

“Does gan y Cyngor Tre’ ddim prês, nad oes? A dim pobol Capel Celyn wnaeth ofyn am y lle,” meddai wedyn.

“Cyfrifoldeb y bwrdd dŵr ydy o, achos mai nhw sydd yng ngofal y llyn.”