Mae ffermwr a pherchennog busnes lleol wedi mynegi pryder wrth i’r tân mewn coedwig ar lechweddau Cwm Rheidol barhau i losgi a lledu.

Ac ynghanol un o gyfnodau prysura’r flwyddyn o ran ymwelwyr, mae Rheilffordd Cwm Rheidol wedi cadarnhau na fydd y trên bach yn rhedeg o Aberystwyth i Bontarfynach y penwythnos hwn.

“Ni’n gorfod cymryd pob diwrnod fel y mae,” meddai Alun Jenkins sy’n ffermio yn ardal Pontarfynach ac yn rhedeg caffi’r Two Hoots ger yr orsaf yn y pentref.

Er bod y caffi yn parhau ar agor yn ôl yr arfer, mae’n pwysleisio fod atal y trenau o ganlyniad i’r tân “wedi cael effaith” ar y busnes.

Dal i losgi

Cafodd y criwiau tân eu galw i’r ardal yn wreiddiol fore Mawrth, Mehefin 26, gan lwyddo i ostegu’r fflamau erbyn nos Iau, 28 Mehefin – ond erbyn bore dydd Gwener, Mehefin 29, roedd y tân wedi ailgynnau, gan ymledu’n is i lawr y cwm.

“Nid peth hawdd yw cael ato,” meddai Alun Jenkins gan esbonio bod hofrenyddion a chriwiau tân wedi bod yn trin y fflamau ers rhai dyddiau bellach.

“Beth sy’n gwneud y gwaith yn fwy peryglus fyth,” meddai yw bod “olion hen weithfeydd mwyn yna a siafftiau agored … mae’n beryg i’r bobl sy’n ymladd y tân.”

Tanceri dŵr

Erbyn hyn, mae ffermwyr lleol wedi bod wrthi’n cynorthwyo â’r gwaith o ddiffodd y tân gan gario dŵr mewn tanceri o lyn cyfagos.