Bu’n rhaid i deithwyr ar drên bach Cwm Rheidiol gael eu cludo yn ôl i dre’ Aberystwyth mewn bysus y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 26), yn dilyn tân ger Pontarfynach.

Y gred yw bod y tân wedi cychwyn ar borfa oherwydd y tywydd poeth, ac mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod modd gweld y mwg o dre’ Aberystwyth.

Dywed llefarydd ar ran Rheilffordd Cwm Rheidol wrth golwg360 eu bod nhw wedi gohirio’r gwasanaeth drenau yn syth y bore yma, a bod bysus wedi’u hanfon i gludo’r teithwyr yn ôl o Bontarfynach.

Dyw’r gwasanaeth ddim wedi ailgychwyn eto, a doedden nhw ddim yn gallu cadarnhau pryd fydd hynny.