Ar ôl cyflwyno’i henwebiad o’r newydd i gael parhau’n arweinydd Plaid Cymru, mae Leanne Wood wedi dweud mai annibyniaeth i Gymru yw ei “hamcan pwysicaf”.

Daeth ei sylwadau mewn erthygl i wefan nation.cymru, lle mae hi’n egluro bod gofyn iddi gyflwyno’i henwebiad o’r newydd bob dwy flynedd.

Ond yr wythnos hon, roedd llythyr gan dri Aelod Cynulliad – Elin Jones, Siân Gwenllian a Llŷr Huws Gruffydd – yn galw am her i’w harweinyddiaeth.

Yn dilyn yr alwad honno, mae lle i gredu bod Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn ystyried cyflwyno’u henwau.

Annibyniaeth – “gwireddu ein potensial fel gwlad”

Yn ei herthygl i’r wefan heddiw, dywedodd mai ei phrif amcan yw “arwain llywodraeth Plaid Cymru sy’n dechrau taith ein cenedl tuag at annibyniaeth, fel y gallwn ni wireddu ein potensial fel gwlad”.

Wrth egluro’i rhesymau, dywedodd na all San Steffan gynnig yr atebion sydd eu hangen ar Gymru, a bod yna “ffordd well” ar gyfer y genedl.

Dywedodd mai ei gweledigaeth yw creu Cymru “yn seiliedig ar gydraddoldeb, urddas a chyfle i bawb”, a bod creu’r fath wlad annibynnol “yn mynd ymhellach o lawer na threfniadau cyfansoddiadol cenedlaethol”.

Ychwanegodd: “Mae’n ymwneud â’r agwedd, rhagolwg a hyder sydd gan bobol pan fo ganddyn nhw awdurdod gwleidyddol ac economaidd i benderfynu cyfeiriad eu bywydau eu hunain.”

Eglurodd y byddai’n sefydlu fforwm cenedlaethol i drafod y ffordd ymlaen heb “ddibyniaeth ar San Steffan” a chreu darlun i Gymru lle “nad oes angen aros i San Steffan” cyn adeiladu “gwell gymdeithas i ni ein hunain”.

“Dw i eisiau creu Cymru lle nad ydyn ni’n fodlon ar fod yn ail orau. Lle mae ein cymunedau’n tyfu’n fwy cyfoethoeg ac nid yn fwy tlawd. Dw i am weld penderfyniadau am ein gwlad yn cael eu gwneud yn ein gwlad.”

Gwneud cam â Chymru

Wrth amlinellu nifer o bolisïau San Steffan sydd wedi niweidio Cymru, ym marn Leanne Wood, mae hi’n cyfeirio at Brexit sy’n “costio swyddi a chyflogau Cymreig” a chytundeb i “wanhau ein Cynulliad Cenedlaethol”.

Dywedodd ei bod hi am weld y pwerau Ewropeaidd yn dychwelyd i Gymru, ac nid i San Steffan a gafodd eu “rhoi mor sinigaidd i San Steffan gan Lafur”.

Ychwanegodd na fyddai hi’n ystyried clymbleidio ag “unrhyw blaid sy’n gwrthwynebu ein hegwyddorion, ein gwerthoedd a’n polisïau”.

“Wedi ein hysbrydoli gan weledigaeth ar gyfer dyfodol gwell, gallwn adeiladu cenedl sy’n cael ei ffurfio gan ei thrigolion, gan roi gobaith a chyfle i’r sawl sydd wedi cael eu hamddifadu ers cyhyd.”

Dywedodd y byddai hi’n sicrhau “pobol a gwlad sy’n barod i gymryd ein dyfodol yn ein dwylo ni ein hunain”.