Fe ddylai hi fod yn anghyfreithlon i drin yr iaith Gymraeg â rhagfarn a chasineb, yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd.

Mewn dadl yn Neuadd Westminster, mi fydd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, yn galw am warchod yr iaith mewn deddfwriaeth.

Daw’r alwad yn dilyn erthygl ddadleuol gan golofnydd The Sunday Times, Rod Liddle, yn lladd ar yr iaith – “yr enghraifft ddiweddaraf mewn traddodiad maith o ddifrïo,” meddai’r Aelod Seneddol.

Ar hyn o bryd mae naw o nodweddion personol yn cael eu gwarchod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gydag oedran, anabledd, hil a chrefydd yn cael eu diogelu.

“Gwawd a gwatwar cyson”

“Mae’r llif cyson o wawd, gwatwar a dirmyg y sefydliad y mae’r iaith yn ddioddef dro ar ôl tro yn cael effaith ddofn,” meddai Liz Saville Roberts.

“… Mae ymosod ar yr iaith Gymraeg a thrwy hynny siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd yn drosedd casineb, ond nid yw’r gyfraith yn adlewyrchu hyn.

“Mae cwynion yn cael eu hanwybyddu ar y sail nad yw iaith yn nodwedd warchodedig ac yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth San Steffan yn ystyried newid hynny er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd yn rhaid i siaradwyr Cymraeg ddioddef gwawd a gwatwar cyson gan Rod Liddle a’i debyg.”